Mae Uned Atgyfeirio Disgyblion Gorwelion Newydd yn bendant ag arwyddair addas “Cyfle, Dyhead a Llwyddiant” gydag adroddiad clodwiw yn dilyn arolwg diweddar gan Estyn.
Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, roedd yr arolygwyr yn nodi bod yr uned yn darparu amgylchedd tawel a phwrpasol, sy’n cefnogi lles a dysgu’r disgyblion yn gryf. Mae’r staff yn enghreifftiau hynod effeithiol ac yn magu perthnasoedd gwaith llwyddiannus gyda disgyblion, sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch y naill at y llall. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn yn ystod eu cyfnod yn yr Uned Cyfeirio Disgyblion a chyflawni’r safonau yn unol â’u disgwyliadau. Mae rhai disgyblion yn gwneud cynnydd eithriadol.
Mae disgyblion hŷn yn cael budd o gwricwlwm cynhwysfawr, sy’n eu paratoi yn dda ar gyfer eu llwybrau posibl yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys ystod o gyrsiau, gan gynnwys TGAU, lefel mynediad a llwybrau galwedigaethol. Mae ystod eang o ddarparwyr preifat, a gydlynir gan yr arweinydd addysg ar wahân i’r ysgol (EOTAS), yn ymestyn ac yn cryfhau’r cynnig ymhellach i ddisgyblion. O ganlyniad, pan maent yn gadael, mae llawer o ddisgyblion yn symud ymlaen i addysg, gwaith neu hyfforddiant pwrpasol.
Mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn yn eu cyfraddau presenoldeb personol o ganlyniad i brosesau a systemau hynod effeithiol ac wedi sefydlu’n dda.
Mae disgyblion yn dangos gwydnwch pan wynebir gyda heriau ac mae ganddynt gysyniad cadarnhaol o’u hunain fel dysgwyr. Mae hyn yn dangos cynnydd cadarn iawn o’u mannau cychwyn.
Daeth yr arolygwyr i’r casgliad yn eu crynodeb o ganlyniad i ddiwylliant hynod effeithiol o gydweithio a threfniadau gweithio tryloyw gyda phartneriaid allweddol, y cyfathrebu a pherthynas gwaith gyda rhieni a gofalwyr yn gryf. O ganlyniad, mae arweinyddiaeth strategol yr Uned Atgyfeirio Disgyblion yn gryfder.
Dywedodd Darren Lee, Pennaeth: “Rydym mor falch o’r adroddiad sydd yn y bôn yn cydnabod sut mae dull tîm cydlynol yn gweithio gyda’r Awdurdod Lleol, Pwyllgor Rheoli, staff, rhieni a disgyblion wirioneddol yn gwella deilliannau a chodi safonau. Ni fyddwn yn gorffwys ar ein bri a byddwn yn parhau i ddyheu i ddarparu’r profiad addysg gorau y gallwn i’n disgyblion, ar hyd cymuned Wrecsam.”
Dywedodd Rob Ratcliffe, Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli “Mae gennym dîm o staff gwych sydd â safonau proffesiynol uchel, sydd byth yn rhoi fyny ac yn bwysicach na dim, wirioneddol yn gofalu am y bobl ifanc mwyaf diamddiffyn yn ein cymuned. Rydym i gyd yn hynod falch o’r adroddiad hwn”
“Dylai pawb yn Gorwelion Newydd fod yn falch”
Dywedodd Cyng Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, “Mae hwn yn adroddiad Estyn y dylai pawb yn Gorwelion Newydd fod yn falch ohono ac mae’n deyrnged i waith caled yr arweinwyr yn yr ysgol. Mae disgyblion yn cael eu parchu, eu cymell a’u hysbrydoli gyda’r canlyniad eu bod yn gwneud cynnydd ardderchog yn yr uned.
“Mae’n galonogol iawn darllen yn yr adroddiad hwn y camau a gymerir ar gyfer disgyblion a dysgu eu bod yn cael budd drwy’r dull gofalgar i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial wrth iddynt baratoi ar gyfer gwaith, addysg bellach neu hyfforddiant.”
Mae yna ddau faes a argymhellir yn yr adroddiad i helpu’r ysgol barhau i wella:
- Gwella sgiliau digidol disgyblion
- Cryfhau’r trefniadau cydweithio gydag ysgolion prif ffrwd i sicrhau dychwelyd yn llwyddiannus i addysg prif ffrwd ar gyfer disgyblion ble bo’n briodol.
Bydd cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r ddau argymhelliad hwn nawr yn cael ei lunio.
Gorwelion Newydd / New Horizons
Mae’r uned yn wasanaeth atgyfeirio disgyblion portffolio sy’n darparu addysg i bobl ifanc oedran uwchradd sy’n methu mynychu ysgol prif ffrwd, maent yn gweithredu ar draws tri safle, yn benodol; Stiwdio Hafod, Stiwdio Pen-y-Cae a Haulfan sy’n arbenigo mewn cefnogi anghenion disgyblion unigol sy’n ymwneud ag osgoi ysgol sy’n seiliedig ar ymddygiad ac emosiwn.
- Mae Stiwdio Hafod yn safle cyfnod allweddol 3 arhosiad byr / dad-ddwysau i ddisgyblion gydag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiad.
- Mae Stiwdio Pen-y-Cae yn safle cyfnod allweddol 4 i ddisgyblion gydag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiad.
- Mae Haulfan yn safle cyfnod allweddol 3 a 4 i ddisgyblion sy’n osgoi’r ysgol ar sail emosiynol.
Gallwch wirio gwefan Gorwelion Newydd yma.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Cynllun Grant Bach Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid 2024 – 2025 – ar agor ar gyfer ceisiadau