Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newidiadau ar y ffordd i sesiynau nofio am ddim
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Newidiadau ar y ffordd i sesiynau nofio am ddim
Pobl a lleY cyngor

Newidiadau ar y ffordd i sesiynau nofio am ddim

Diweddarwyd diwethaf: Medi 11, 2019 3:13 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Newidiadau ar y ffordd i sesiynau nofio am ddim
RHANNU

Ydych chi’n defnyddio rhai o’r sesiynau nofio am ddim sy’n cael eu cynnig ym mhyllau nofio Bwrdeistref Sirol Wrecsam?

Cynnwys
  • Pam fod y newidiadau’n digwydd?
  • Sut fydd y cynllun yn effeithio arnaf i?
  • Pyllau Nofio Freedom Leisure
  • Ymddiriedolaeth Gymunedol Sblash
  • “Byddwn yn sicrhau fod sesiynau’n parhau’n hygyrch”

Os ydych chi, fe ddylech ddarllen y canlynol.

Yn dilyn adolygiad diweddar o Fenter Nofio am Ddim Chwaraeon Cymru, gan edrych ar y modd y gall ei wasanaethau dargedu grwpiau megis pobl ifanc a’r rhai dros 60 yn well, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwneud newidiadau i’r hyn mae’r gwasanaeth yn ei gynnig a sut mae’n gweithio.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Mae hyn yn golygu newidiadau ar gyfer sesiynau nofio am ddim ym mhyllau nofio’r Fwrdeistref Sirol.

Mae hyn yn cynnwys yr holl byllau nofio y mae Cyngor Wrecsam yn eu rhedeg ar y cyd â phartneriaid Freedom Leisure, a’r pwll yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc, sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Gymunedol Splash.

Bydd y gwasanaeth newydd yn dechrau o ddydd Mawrth, Hydref 1af.

Pam fod y newidiadau’n digwydd?

Cynhaliodd UK Research and Consultancy Services adolygiad annibynnol o’r cynllun Menter Nofio am Ddim, gan ddod i’r casgliad nad yw’r cynllun bellach yn addas i’r diben.

Er bod miloedd o bobl wedi bod yn nofio ers ei greu yn 2003, mae nifer y bobl ifanc sydd yn elwa o’r cynllun wedi bod yn lleihau’n sylweddol ers 2013/14.

O ran pobl 60 oed neu hŷn, daeth yr adolygiad i’r casgliad mai dim ond chwech y cant o’r demograffig wedi’i dargedu sydd â mynediad i’r cynllun ar hyn o bryd.

Gyda hyn mewn golwg, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwneud newidiadau i’r cynllun, trwy leihau’r gyllideb gyffredinol a lleihau nifer y sesiynau a fydd ar gael.

O dan yr amcanion diwygiedig, bydd y cynllun yn canolbwyntio ar bobl ifanc a phobl dros 60 oed o ardaloedd difreintiedig, gan sicrhau fod pobl na fyddai â mynediad at y gwasanaethau yn draddodiadol, yn cael cyfle i ddysgu sgil bywyd newydd, a dechrau nofio’n amlach.

Sut fydd y cynllun yn effeithio arnaf i?

Bydd y sesiynau nofio am ddim ym mhyllau nofio’r fwrdeistref sirol yn cael eu haddasu i’r oriau canlynol:

Pyllau Nofio Freedom Leisure

Dan 16

Un sesiwn yr wythnos, fesul pwll, 52 wythnos o’r flwyddyn yn:

  • Y Waun – dydd Sul 2pm tan 3pm
  • Gwyn Evans – dydd Sul 10am tan 11am
  • Canolfan Byd Dŵr – dydd Sadwrn, 3.30pm tan 4.30pm

Dros 60

Dwy ar yr wythnos, am 39 wythnos (bydd cyfnodau gwyliau yn effeithio ar argaeledd) yn:

  • Gwyn Evans – dydd Iau, 3pm tan 4pm; a dydd Gwener, 5.30pm tan 6.30pm.
  • Canolfan Byd Dŵr – dydd Mawrth, 9am tan 10am; a dydd Gwener, 2pm tan 3pm.
  • Y Waun – dydd Llun, 2.30pm tan 3.30pm; a dydd Mercher, 2.30pm tan 3.30pm.

Ymddiriedolaeth Gymunedol Sblash

Dan 16

Un sesiwn yr wythnos, 52 wythnos o’r flwyddyn yng:

  • Nghanolfan Hamdden Plas Madoc – dydd Sadwrn, 3pm tan 4pm

Dros 60

Dwy ar yr wythnos, am 39 wythnos (bydd cyfnodau gwyliau yn effeithio ar argaeledd) yng:

  • Nghanolfan Hamdden Plas Madoc – dydd Llun, 10.30am tan 11.30am; a dydd Mawrth, 11am – 12pm.

Mae’r newyddion diweddaraf a rhagor o fanylion ar gael ar wefan Freedom Leisure, ac ar wefan Canolfan Hamdden Plas Madoc (dolen gyswllt i wefan Saesneg).

Bydd sesiynau ychwanegol nofio Dan 16 ar gael yn ystod y gwyliau haf.

“Byddwn yn sicrhau fod sesiynau’n parhau’n hygyrch”

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Byddwn yn cydweithio â’n partneriaid i sicrhau fod y sesiynau nofio am ddim yn parhau’n hygyrch, a byddwn yn sicrhau fod defnyddwyr yn ymwybodol o’r amseroedd newydd a’r hyn a gynigir wrth i’r newidiadau ddigwydd”.

“Byddwn hefyd yn gweithio â Chwaraeon Cymru er mwyn hyrwyddo’r cynllun ymysg grwpiau sydd yn draddodiadol anodd eu cyrraedd, i sicrhau y gallant elwa o’r cynllun – yn unol â’r blaenoriaethau newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod”.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol A ydych yn hapus â'ch gorsaf bleidleisio? A ydych yn hapus â’ch gorsaf bleidleisio?
Erthygl nesaf Jobs Fair Angen 20,000 mwy o ofalwyr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 17, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English