Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi ei gynigion i greu 16 etholaeth Seneddol yn lle’r 32 a geir ar hyn o bryd.
I greu’r etholaethau newydd yma, mae’r Comisiwn wedi uno etholaethau presennol ac mae arnyn nhw eisiau gwybod beth ydi’ch barn chi am eu syniadau – fyddan nhw’n gweithio yn eich ardal chi? Ydych chi’n meddwl y dylid paru’ch etholaeth gydag etholaeth wahanol i’r un a awgrymir?
Mae rhestr lawn o’r newidiadau arfaethedig ar gael ar wefan Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, yma hefyd gewch chi wybod sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy’r post, ar e-bost neu ar-lein.
Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben ar 30 Medi.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.