Mae yna rai newidiadau ar y gweill i wasanaethau bws gan gynnwys rhai na fydd yn rhedeg mwyach.
Mae’r newidiadau wedi eu rhestru mewn adroddiad i gynghorwyr ac wedi eu disgrifio yn “siomedig” gan yr Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant, y Cyng. David A Bithell.
Daw’r newidiadau i rym ddiwedd Mawrth a dechrau Ebrill.
Mae’r mwyafrif o’r newidiadau a fwriedir yn ymwneud â gwasanaethau masnachol a weithredir gan Fysiau Arriva Cymru ac yn cynnwys nifer o roi’r gorau i wasanaeth, addasiadau i amserlenni presennol a llwybr gwasanaethau. Mae rhestr lawn o’r newidiadau a fwriedir isod
Dywedodd y Cyng David A Bithell – Aelod Arweiniol Cludiant a’r Amgylchedd: “Mae’n siomedig unwaith eto i glywed am fwy o newidiadau gan Fysiau Arriva Cymru i weithrediad Gwasanaethau Bysiau Lleol yn Wrecsam.
“Mae’r newidiadau hyn yn debyg o gael effaith sylweddol ar y trigolion hynny sy’n dibynnu ar y gwasanaethau hyn i gael mynediad i waith ac addysg. Mae’r effaith yn debyg o fod yn fwy sylweddol i’r aelodau mwyaf bregus yn ein cymunedau sy’n dibynnu gymaint ar y gwasanaethau hyn.
“Gan fod y gwasanaethau hyn yn cael eu gweithredu’n fasnachol, nid oes gan yr Awdurdod Lleol y pŵer i ymyrryd, er bod Arriva wedi rhannu manylion y cynigion a thrafod gyda swyddogion y cyngor cyn cyflwyno’r newidiadau.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell, “Mae’r Diwydiant Bws Lleol wedi cyrraedd y pen, nid yw dadreoleiddio wedi cyflawni’r addewid o gystadleuaeth well a ffioedd rhatach a’n trigolion sy’n dioddef. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn siarad am ddiwygio’r diwydiant bws ers nifer o flynyddoedd, ond hyd yma nid ydym wedi gweld unrhyw weithredu cadarnhaol. Mae Llywodraeth Cymru angen ymyrryd ac ar fyrder i atal y dirywiad yn y diwydiant.
“Rydym wedi cael trafodaeth gyda Bysiau Arriva Cymru yr wythnos hon am gyfeiriad teithiau bws yn Wrecsam yn y dyfodol, gan gynnwys gostyngiad yn lefel y cyllid sy’n effeithio nid yn unig ar awdurdodau lleol, ond ar weithredwyr bws preifat hefyd. Rydym wedi cytuno i adolygu cyllid a sut y gallwn weithio gyda gweithredwyr fel Arriva i sicrhau bod unrhyw gyllid yn cael ei ddefnyddio’n well i ddarparu gwasanaethau bws gwell sy’n diwallu anghenion ein trigolion ac ymwelwyr.”
Meddai Michael Morton, Rheolwr Gyfarwyddwr Bysiau Arriva Cymru: “Nid yw gwasanaethau sy’n cael eu haddasu yn hyfyw yn fasnachol ac maent yn cael eu haddasu neu eu rhwystro er mwyn diogelu gweddill rhwydwaith bws Wrecsam. Mae’n anffodus yn ystod y blynyddoedd diwethaf bod cyllid awdurdod lleol ar gyfer llwybrau bws sy’n angenrheidiol yn gymdeithasol wedi eu torri i’r pwynt bod Cyngor Wrecsam yn ei chael hi’n anodd talu am wasanaethau nad ydynt yn gwneud arian yn gadael i’r gweithredwyr bws masnachol wneud eu gorau. Nid ydym yn cytuno bod y diwydiant bws wedi cyrraedd y pen. Yn ddiweddar, mae rhai gweithredwyr wedi ceisio cael gwaith drwy redeg gwasanaethau, naill ai’n fasnachol neu o dan gytundeb i awdurdodau lleol sydd, yn amlwg wedi bod yn llai na’r gost a dyma’r rheswm pam bod llai o weithredwyr nag o’r blaen. Mae cystadleuaeth marchnad rydd yn rhan o’r diwydiant bws yr ydym ynddo, fel y rhan fwyaf o ddiwydiannau eraill a bydd y rhai sy’n rhedeg yn effeithiol ac yn fasnachol bob amser yn goroesi. Mae modelau eraill, lle nad yw cystadleuaeth yn norm, yn anochel yn costio mwy gan eu bod yn cael eu cyllido’n gyhoeddus, tra bod 90% o rwydwaith ardderchog, heb amheuaeth yn Wrecsam yn cael eu ddarparu heb unrhyw gost i’r talwr ardrethi. Mae ffioedd bysus yn Wrecsam wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf yn arbennig i gwsmeriaid rheolaidd ac rydym wedi rhewi’r gost tocynnau diwrnod ac wythnos cyfan am o leiaf tri mis cyntaf y flwyddyn. Rydym yn croesawu ein cyfarfodydd rheolaidd gyda’r Cynghorydd Bithell a swyddogion Cyngor Wrecsam a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i edrych ar ffyrdd gwell o weithredu gan gynnwys y posibilrwydd o wasanaethau bws mini ymateb i’r galw uwch dechnoleg.
Newidiadau i’r amserlen:
Gwasanaeth Bws Arriva Cymru 4) Wrecsam – Rhos – Penycae
• Gwasanaeth a weithredir yn fasnachol
• Amserlen newydd o ddydd Sul 31 Mawrth 2019.
• Bydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu oriau brig y bore a’r prynhawn yn unig.
Bysiau Arriva Cymru, Gwasanaeth 4B: Wrecsam – Rhos – Afoneitha
• Gwasanaeth a weithredir yn fasnachol
• Gwasanaeth newydd o ddydd Sul 31 Mawrth 2019.
• Bydd y gwasanaeth hwn ond yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 0930-1630)
Bysiau Arriva Cymru, Gwasanaeth 4A: Wrecsam – Johnstown – Afoneitha
• Gwasanaeth a weithredir yn fasnachol
• Newid llwybr yn Johnstown. Gwasanaeth i weithredu ar ffordd fawr y B5605. Nant Parc; ystadau Moreton – ni wasanaethir mwyach.
Gwasanaeth Bws Arriva Cymru 12: Wrecsam – Brymbo
• Gwasanaeth a weithredir yn fasnachol
• Amserlen newydd o ddydd Sul 31 Mawrth 2019.
• 0450awr gwasanaeth o Brymbo yn dod i ben.
• 0511awr a 0535awr ni fydd y siwrneiau i Brymbo yn dechrau yng Ngorsaf Bws Wrecsam mwyach ond yn dechrau o New Broughton
Gwasanaeth Bws Arriva Cymru 26/27: Wrecsam – Yr Wyddgrug
• Gwasanaeth a weithredir yn fasnachol
• Amserlen newydd o ddydd Sul 31 Mawrth 2019.
• Pob gwasanaeth i fod yn wasanaeth 27.
• Newid llwybr, i wasanaethu Ffordd yr Wyddgrug; Hen Ffordd Yr Wyddgrug. Ni wasanaethir Ffordd Brynhyfryd nac Ystâd Pentywyn mwyach.
Gwasanaeth Bws Arriva Cymru 33: Wrecsam – Llai
• Gwasanaeth a weithredir yn fasnachol
• Amserlen newydd o ddydd Sul 31 Mawrth 2019.
• Y bws cyntaf yn gadael Gorsaf Bws Wrecsam 0645awr (dydd Llun – dydd Gwener) yn newid i X33 yn uniongyrchol i Llai ar y B5425 (Ffordd Newydd Llai). Ni fydd y siwrnai hon yn gwasanaethu ardal Bradle ar y siwrnai allan.
• Gadael Gorsaf Bws Wrecsam fin nos ( dydd Llun – dydd Sadwrn) o 1830awr yn X33 yn uniongyrchol i Llai ar y B5425 (Ffordd Newydd Llai). Ni fydd y siwrneiau hyn (heblaw un olaf am 2245 awr) yn gadael ardal Gwersyllt ar y siwrnai allan.
Gwasanaethau Newydd
Gwasanaeth Bws D& 41B: Wrecsam – CEM Berwyn
• Gwasanaeth a gefnogir yn llwyr wedi’i gyllido drwy arian adran 106 datblygiad CEM Berwyn.
• Gwasanaeth newydd o ddydd Sul 7 Ebrill 2019.
• Bydd y gwasanaeth yn darparu cyswllt cludiant bob awr yn ystod y dydd o Orsaf Reilffordd Gyffredinol Wrecsam; Gorsaf Bws Wrecsam i CEM Berwyn
Tynnu gwasanaeth yn ôl
Gwasanaeth Bws Arriva Cymru 42: Wrecsam – Hightown
• Gwasanaeth a weithredir yn fasnachol
• Diwrnod olaf gweithredu: Dydd Sadwrn 30 Mawrth 2019.
• Penderfyniad masnachol a wnaed gan y gweithredwr i dynnu’r gwasanaeth yn ôl oherwydd diffyg defnydd.
Gwasanaeth Bws Arriva Cymru 44: Wrecsam – Lôn Barcas
• Gwasanaeth a weithredir yn fasnachol
• Diwrnod olaf gweithredu: Dydd Sadwrn 30 Mawrth 2019.
• Penderfyniad masnachol a wnaed gan y gweithredwr i dynnu’r gwasanaeth yn ôl oherwydd diffyg defnydd.
Gwasanaeth Townlynx 28: Y Fflint – Yr Wyddgrug – Wrecsam
• Gwasanaeth a weithredir yn fasnachol
• Diwrnod olaf gweithredu: Dydd Sadwrn 30 Mawrth 2019.
• Penderfyniad masnachol a wnaed gan y gweithredwr i dynnu’r gwasanaeth yn ôl i Wrecsam.
Gwasanaeth Townlynx 40: Yr Wyddgrug – Wrecsam
• Gwasanaeth a weithredir yn fasnachol
• Diwrnod olaf gweithredu: Dydd Sadwrn 30 Mawrth 2019.
• Penderfyniad masnachol a wnaed gan y gweithredwr i dynnu’r gwasanaeth yn ôl.
Gwasanaeth Tacsis Wrecsam 47F: New Brighton – Talwrn – Wrecsam
• Gwasanaeth CBSW a gefnogir yn llawn
• Diwrnod olaf gweithredu: Dydd Mawrth 26 Mawrth 2019.
• Penderfynwyd peidio ail-dendro’r gwasanaeth hwn oherwydd diffyg defnydd.
Siaradwr Cymraeg? Helpwch ni i wella ein gwasanaethau Cymraeg.
CWBLHEWCH EIN HYMGYNGHORIAD RŴAN