A yw eich plant yn defnyddio bysiau ysgol?
Os ydynt yn eu defnyddio, mae’n bosibl yr hoffech gael gwybod am yr isod sef manylion am ddarparwyr newydd ar gyfer y teithiau bws ysgol.
Nid oes newid i fannau casglu nac amseroedd, felly peidiwch â phoeni am newidiadau i’r amserlenni eu hunain – dim ond newid yw hwn i’r cwmnïau hynny sy’n gweithredu’r teithiau bws.
Dylai disgyblion barhau i ddefnyddio eu tocynnau bws dilys gwreiddiol.
Os oes angen tocyn newydd yn lle un blaenorol, ewch i Galw Wrecsam yn Stryt yr Arglwydd, Wrecsam neu ffoniwch 01978 298989. Mae ffi o £5 am unrhyw docyn newydd.
Mae’r darparwyr newydd fel a ganlyn:
Ysgol Morgan Llwyd
563W Ardal Gwersyllt – STRAFFORDS COACHES
Sant Joseph/ Santes Fair
567F Ardal Brymbo – PATS COACHES
567H Ardal Gresffordd – E JONES A’I FAB
567Q Ardal Coedpoeth – UNICORN TRAVEL
Ysgol Gynradd Gymunedol Garth
195B Ardal Trefor – E JONES A’I FAB
Bro Alun, Plas Coch, a Bodhyfryd
440X Ardal Merffordd / Llai PATS COACHES
440Y Ardal Tanyfron PATS COACHES
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT