Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newydd droi’n 16 oed? Erioed wedi pleidleisio o’r blaen? Darllenwch fwy…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Newydd droi’n 16 oed? Erioed wedi pleidleisio o’r blaen? Darllenwch fwy…
ArallPobl a lle

Newydd droi’n 16 oed? Erioed wedi pleidleisio o’r blaen? Darllenwch fwy…

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 25, 2022 4:38 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Katie and Scarlet
RHANNU

Yng Nghymru, bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio mewn etholiadau lleol am y tro cyntaf ar 5 Mai 2022.

Eleni fydd y tro cyntaf i lawer o bobl bleidleisio yn Wrecsam, felly fe fuom yn siarad ag ychydig o bobl ifanc yn Nhŷ Pawb i glywed sut oeddent yn teimlo am bleidleisio.

Mae Katie a Scarlett yn 16 oed ac yn dod o Wrecsam, a dyma fydd y tro cyntaf iddynt fwrw pleidlais.

CBSW: “Katie beth am ddechrau gyda thi. Y llynedd, ti oedd llysgennad pleidleisio Senedd yr Ifanc felly yn amlwg rwyt yn teimlo’n gryf iawn am bleidleisio, felly alli di ddweud wrthym pam ei fod mor bwysig i ti?”

Katie: “Yn syml, os na fydda i’n pleidleisio, yna bydd y penderfyniadau a wneir amdana i a fy mywyd allan o fy rheolaeth yn llwyr – ni fydd gen i unrhyw farn amdanynt – ond drwy bleidleisio, fi sydd mewn rheolaeth a fi sy’n dewis pwy sy’n gwneud penderfyniadau drosta i.”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Scarlett: “Rydyn ni’n ffodus yng Nghymru. Yn 16 oed, gallwn wneud llawer o benderfyniadau sy’n siapio bywyd; bellach mae pleidleisio yn un ohonynt. Mae pleidleisio yn rhoi cyfle i ni gymryd rhan weithredol mewn gwleidyddiaeth ac ymgysylltu â phenderfyniadau fydd yn cael effaith ar ein cymunedau lleol. Dylai pawb gael y cyfle i leisio eu barn i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a hyrwyddo materion y maent yn frwdfrydig drostynt.”

CBSW: “Scarlett, rwyt ti’n sôn am gysylltiad rhwng pleidleisio a hyrwyddo materion sy’n bwysig i ti, sut wyt ti’n meddwl maen nhw wedi’u cysylltu?”

Scarlett: “Mae dysgu am sut a pham i bleidleisio yn hanfodol i feithrin ein dealltwriaeth wleidyddol ac annog unigolion i lunio eu credoau eu hunain.”

CBSW: “Ydych chi’ch dwy’n teimlo y bydd eich pleidlais yn cael effaith ar eich cymuned?”

Katie: “Bydd y rhan fwyaf o bobl yn ateb y cwestiwn hwn dwy ddweud ‘nad yw eu pleidlais yn cyfri’, ac er ei fod yn ymddangos nad oes ganddi werth fel pleidlais unigol, pe bai pawb yn credu hynny, ychydig iawn o bobl fyddai’n pleidleisio a byddai penderfyniadau’n cael eu seilio ar lond llaw o bleidleisiau, ac mae hyn wedi digwydd yn y gorffennol. Rydw i’n credu’n gryf y bydd fy mhleidlais yn cael effaith ar fy nghymuned mewn rhyw ffordd, oherwydd yn y pen draw, bydd cynghorydd yn cael ei ddewis ar gyfer fy ward i a byddaf i’n
rhan o’r penderfyniad hwnnw.”

Katie: “Rydw i wir yn credu y bydd yn cael effaith. Gan mai pleidlais ddemocrataidd ydyw, mae pob un yn cyfri. Gallai un bleidlais wneud gwahaniaeth rhwng un blaid a’r llall. Felly gallai pob pleidlais unigol benderfynu ar ganlyniad yr etholiad, fydd yn cael effaith yn y pen draw ar ba ymgeisydd sy’n cael ei ethol a’r polisïau sy’n cael eu rhoi ar waith.”

Pan fyddwch yn pleidleisio am y tro cyntaf, mae’n debyg bod llawer o bethau nad ydych yn eu gwybod, felly cadwch lygad ar ein blog i gael mwy o wybodaeth am sut i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ticket Fraud Tocyn da i ddim? Peidiwch â gadael i dwyllwyr tocynnau fynd â’ch arian
Erthygl nesaf Tax Credits 2.1 miliwn o becynnau credydau treth blynyddol i gael eu cyflwyno

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English