Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Tocyn da i ddim? Peidiwch â gadael i dwyllwyr tocynnau fynd â’ch arian
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Tocyn da i ddim? Peidiwch â gadael i dwyllwyr tocynnau fynd â’ch arian
Y cyngor

Tocyn da i ddim? Peidiwch â gadael i dwyllwyr tocynnau fynd â’ch arian

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 25, 2022 11:06 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Ticket Fraud
RHANNU

Mae data newydd gan Action Fraud, y ganolfan genedlaethol rhoi gwybod am dwyll a seiberdroseddu, yn datgelu bod 4,982 o bobl wedi dioddef twyll tocynnau yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22.

Mae dioddefwyr yn dweud eu bod wedi colli £3.8 miliwn – colled o £750 ar gyfartaledd fesul dioddefwr!

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Adroddwyd am 623 o achosion dim ond ym mis Medi y llynedd – y nifer fwyaf o adroddiadau a gafwyd ers mis Mawrth 2020, wrth i’r rhan fwyaf o wyliau a digwyddiadau gael eu cynnal fel arfer am y tro cyntaf ers cyn y pandemig.

Daeth y ganran uchaf o adroddiadau (27 y cant) gan bobl 20 i 29 oed, ac roedd bron hanner (48 y cant) o ddioddefwyr rhwng 20 a 49 oed.

Mae adroddiadau’n dal i ddod i law eleni, felly byddwch yn wyliadwrus gan wybod sut i adnabod arwyddion twyll tocynnau:

Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Nid oes amheuaeth nad yw’r mathau hyn o droseddwyr yn ceisio cael eu dwylo ar eich arian.

“Waeth pa mor awyddus ydych chi i fynd i ddigwyddiad neu ŵyl, dysgwch sut i adnabod arwyddion twyll er mwyn osgoi cael eich siomi a cholli arian.”

Sut i adnabod arwyddion twyll tocynnau a diogelu eich hunain:

  • Prynwch eich tocynnau gan swyddfa docynnau’r lleoliad, hyrwyddwr neu asiant swyddogol, neu safle docynnau adnabyddus a dibynadwy.
  • Peidiwch â thalu am docynnau trwy drosglwyddiad banc, yn enwedig os ydych chi’n prynu gan rhywun nad ydych chi’n eu hadnabod. Mae cerdyn credyd neu wasanaethau talu fel PayPal yn rhoi gwell cyfle i chi adennill eich arian os byddwch chi’n dioddef twyll.
  • Ceisiwch fod yn wyliadwrus o negeseuon e-bost digymell, negeseuon testun neu hysbysebion sy’n cynnig bargeinion anhygoel o dda ar docynnau. Os ydi’r pris yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debygol ei fod!
  • Ydi’r gwerthwr yn aelod o STAR? (Secure Tickets from Authorised Retailers) Os felly, mae’r cwmni wedi cofrestru i ddilyn eu safonau llywodraethu llym. Mae STAR hefyd yn cynnig gwasanaeth cymeradwy Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod i helpu cwsmeriaid sydd â chwynion heb eu datrys. I gael rhagor o wybodaeth: star.org.uk/buy_safe

Mae Action Fraud hefyd yn cynghori’r cyhoedd i ddilyn cyngor ymgyrch Take Five to Stop Fraud i ddiogelu eu hunain rhag twyll.

Stopio: gall treulio munud neu ddwy i feddwl cyn penderfynu gwario arian neu ddarparu gwybodaeth bersonol eich cadw chi’n saff.

Herio: ydi’r cynnig yn un go iawn? Mae’n iawn i chi wrthod neu anwybyddu cynigion o’r fath. Dim ond troseddwyr wnaiff geisio eich rhuthro neu eich dychryn chi.

Diogelu: os ydych chi’n meddwl eich bod wedi dioddef twyll, cysylltwch â’ch banc yn syth a rhowch wybod i Action Fraud ar-lein ar actionfraud.police.uk neu trwy ffonio 0300 123 2040.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Parents Newyddion Llyfrgelloedd: Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
Erthygl nesaf Katie and Scarlet Newydd droi’n 16 oed? Erioed wedi pleidleisio o’r blaen? Darllenwch fwy…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English