Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Katie a Scarlett, sydd ill dwy’n 16 oed, wrthym ni pam eu bod yn teimlo bod pleidleisio mor bwysig.
Ond os mai dyma’ch tro cyntaf chi’n bwrw pleidlais – waeth faint fo’ch oed chi – gall fod yn brofiad llawn pryder.
Y tro hwn, gofynnom i Katie a Scarlett sut y bydden nhw’n dewis dros bwy i bleidleisio ac i ble y bydden nhw’n troi i wneud eu gwaith ymchwil.
CBSW: “Ydych chi wedi gallu canfod pwy sy’n ymgeisio yn eich ward chi, a beth yw’r gwahaniaeth rhyngddyn nhw?”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Katie: “Ydw, ac rydw i wedi cael cyfle i ofyn i’r ymgeiswyr pam y dylwn i bleidleisio drostyn nhw, beth y maen nhw am ei gynnig i fy ward a fy nghymuned i a sut maen nhw am sicrhau y byddan nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw at hynny.”
Scarlett: “Ydw, mae yna bedwar ymgeisydd yn sefyll ac rydw i wedi defnyddio’r wybodaeth sydd ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol, gwefannau fel Wrexham.com a gwybodaeth ar daflenni y mae’r ymgeiswyr wedi’u postio.”
CBSW: “Sut fyddwch chi’n penderfynu pwy sy’n cael eich pleidlais chi?”
Katie: “Mi fydda’ i’n penderfynu pwy sy’n cael fy mhleidlais ar sail yr hyn y mae pob ymgeisydd yn ei gynnig a pha un sy’n cyd-fynd orau â’r hyn yr hoffwn i ei weld yn digwydd yn fy ward.”
Scarlett: “Drwy ddarllen y maniffestos a’r wybodaeth sydd ar gael, rydw i wedi cael cyfle i gymharu gwahanol bolisïau ac addewidion yr ymgeiswyr sy’n sefyll ar ran y gwahanol bleidiau, a gwneud penderfyniad cytbwys ar sail hynny.”
CBSW: “I gloi, os bydd unrhyw un eisiau dysgu mwy am bleidleisio neu am bwy i bleidleisio drostyn nhw, beth fyddech chi’n ei argymell y dylen nhw ei wneud?”
Scarlett: “Mae yna lawer o wahanol ffyrdd o ddysgu mwy am bleidleisio. Yn gyntaf, fe allech chi gysylltu â’r swyddfa etholiadol leol i gael mwy o wybodaeth am sut i bleidleisio. Mae gwefan Llywodraeth y DU hefyd yn cynnig llawer o wybodaeth fuddiol am etholiadau.”
Katie: “Mi fyddwn i’n eu hargymell i chwilio ar wefan y Cyngor am enwau’r ymgeiswyr a’u manylion cyswllt, ac yna cysylltu â nhw i ofyn cwestiynau am yr hyn y bydden nhw’n ei wneud pe baen nhw’n cael eu hethol.”
Meddai Ian Bancroft, Swyddog Canlyniadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Hoffwn ddiolch i Katie a Scarlett am rannu eu profiadau gyda ni; mae pleidleisio yn garreg filltir enfawr ym mywydau’r rhai sy’n gwneud hynny am y tro cyntaf. Byddwn yn annog cymaint ohonoch chi ag sy’n gallu i ddod i’r gorsafoedd pleidleisio ar Fai’r 5ed, gan ei bod mor bwysig ein bod ni oll yn defnyddio ein hawl ddemocratig i bleidleisio.”
Pan fyddwch chi’n pleidleisio am y tro cyntaf, mae’n debyg y bydd yna lawer o bethau nad ydych chi’n gwybod amdanyn nhw, felly cadwch lygad ar ein blog i gael rhagor o wybodaeth am sut i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH