Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newydd droi’n 16 oed? Pleidleisio am y tro cyntaf? Ddim yn siŵr lle i ddechrau?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Newydd droi’n 16 oed? Pleidleisio am y tro cyntaf? Ddim yn siŵr lle i ddechrau?
ArallPobl a lle

Newydd droi’n 16 oed? Pleidleisio am y tro cyntaf? Ddim yn siŵr lle i ddechrau?

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 28, 2022 1:04 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Newydd droi’n 16 oed? Pleidleisio am y tro cyntaf? Ddim yn siŵr lle i ddechrau?
RHANNU

Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Katie a Scarlett, sydd ill dwy’n 16 oed, wrthym ni pam eu bod yn teimlo bod pleidleisio mor bwysig.

Ond os mai dyma’ch tro cyntaf chi’n bwrw pleidlais – waeth faint fo’ch oed chi – gall fod yn brofiad llawn pryder.

Y tro hwn, gofynnom i Katie a Scarlett sut y bydden nhw’n dewis dros bwy i bleidleisio ac i ble y bydden nhw’n troi i wneud eu gwaith ymchwil.

CBSW: “Ydych chi wedi gallu canfod pwy sy’n ymgeisio yn eich ward chi, a beth yw’r gwahaniaeth rhyngddyn nhw?”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Katie: “Ydw, ac rydw i wedi cael cyfle i ofyn i’r ymgeiswyr pam y dylwn i bleidleisio drostyn nhw, beth y maen nhw am ei gynnig i fy ward a fy nghymuned i a sut maen nhw am sicrhau y byddan nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw at hynny.”

Scarlett: “Ydw, mae yna bedwar ymgeisydd yn sefyll ac rydw i wedi defnyddio’r wybodaeth sydd ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol, gwefannau fel Wrexham.com a gwybodaeth ar daflenni y mae’r ymgeiswyr wedi’u postio.”

CBSW: “Sut fyddwch chi’n penderfynu pwy sy’n cael eich pleidlais chi?”

Katie: “Mi fydda’ i’n penderfynu pwy sy’n cael fy mhleidlais ar sail yr hyn y mae pob ymgeisydd yn ei gynnig a pha un sy’n cyd-fynd orau â’r hyn yr hoffwn i ei weld yn digwydd yn fy ward.”

Scarlett: “Drwy ddarllen y maniffestos a’r wybodaeth sydd ar gael, rydw i wedi cael cyfle i gymharu gwahanol bolisïau ac addewidion yr ymgeiswyr sy’n sefyll ar ran y gwahanol bleidiau, a gwneud penderfyniad cytbwys ar sail hynny.”

CBSW: “I gloi, os bydd unrhyw un eisiau dysgu mwy am bleidleisio neu am bwy i bleidleisio drostyn nhw, beth fyddech chi’n ei argymell y dylen nhw ei wneud?”

Scarlett: “Mae yna lawer o wahanol ffyrdd o ddysgu mwy am bleidleisio. Yn gyntaf, fe allech chi gysylltu â’r swyddfa etholiadol leol i gael mwy o wybodaeth am sut i bleidleisio. Mae gwefan Llywodraeth y DU hefyd yn cynnig llawer o wybodaeth fuddiol am etholiadau.”

Katie: “Mi fyddwn i’n eu hargymell i chwilio ar wefan y Cyngor am enwau’r ymgeiswyr a’u manylion cyswllt, ac yna cysylltu â nhw i ofyn cwestiynau am yr hyn y bydden nhw’n ei wneud pe baen nhw’n cael eu hethol.”

Meddai Ian Bancroft, Swyddog Canlyniadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Hoffwn ddiolch i Katie a Scarlett am rannu eu profiadau gyda ni; mae pleidleisio yn garreg filltir enfawr ym mywydau’r rhai sy’n gwneud hynny am y tro cyntaf. Byddwn yn annog cymaint ohonoch chi ag sy’n gallu i ddod i’r gorsafoedd pleidleisio ar Fai’r 5ed, gan ei bod mor bwysig ein bod ni oll yn defnyddio ein hawl ddemocratig i bleidleisio.”

Pan fyddwch chi’n pleidleisio am y tro cyntaf, mae’n debyg y bydd yna lawer o bethau nad ydych chi’n gwybod amdanyn nhw, felly cadwch lygad ar ein blog i gael rhagor o wybodaeth am sut i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Tree Work Oes arnoch chi angen gwaith wedi’i wneud ar goeden yn eich gardd? Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio meddyg coed proffesiynol.
Erthygl nesaf Does dim newid i gasgliadau biniau dros ŵyl y banc Does dim newid i gasgliadau biniau dros ŵyl y banc

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English