Rydym wedi bod yn gweithio’n galed yn ddiweddar i helpu i droi canol tref Wrecsam yn le bywiog a ffyniannus y mae’n ei haeddu.
I’n helpu i gyflawni hyn, gallwn bellach gadarnhau ein bod wedi cael £1m o gyllid gan Lywodraeth Cymru tuag at Cronfa Adfywio Canol y Dref.
Mae hyn ar ben £1m a ddyfarnwyd trwy’r un gronfa y llynedd (2016/17).
Sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio yn Wrecsam
Fe fydd y cyllid yn cael ei ddarparu ar ffurf benthyciadau di-log er mwyn caffael eiddo a thir yng nghanol tref Wrecsam.
Felly yn syml, fe fydd y benthyciadau yma’n helpu pobl, busnesau a sefydliadau i brynu tir ac eiddo yng nghanol y dref er mwyn iddynt gael eu defnyddio i’w llawn botensial.
Fe allai hyn gynnwys datblygiadau masnachol, hamdden, preswyl a defnydd cymysg.
Enghraifft dda o hyn yw datblygu gwestai yng nghanol y dref. Mae hyn yn un o’r prif feysydd sy’n cael ei ystyried yn ddefnydd da o’r cyllid.
Fe fydd y cyllid yn arbennig o ddefnyddiol i helpu i ddatblygu eiddo nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, fodd bynnag fe fydd hefyd yn helpu i gyfrannu tuag at adfywiad ehangach canol y dref.
Cam cadarnhaol arall i ganol y dref
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae llawer o waith da yn digwydd yng nghanol tref Wrecsam ar hyn o bryd ac rydym eisiau sicrhau ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn fel cyngor i gefnogi hyn.
“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cael yr arian yma gan Lywodraeth Cymru. Mae’n gam cadarnhaol arall yn y cyfeiriad cywir ac fe fydd yn ffordd dda o gefnogi datblygiadau cadarnhaol yn yr ardal.”
Sut i wneud cais
Lle bynnag rydych chi’n byw yn y fwrdeistref sirol, mae yna nifer o ffyrdd y gall y cyngor eich helpu i ddatblygu tir ac eiddo ar gyfer defnydd masnachol a phreswyl.
Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o gynlluniau benthyca y gellir eu defnyddio at ddibenion megis cynlluniau gwella a dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd ar gyfer defnydd preswyl.
Os hoffech chi wybod pa gefnogaeth allai fod ar gael i chi, cysylltwch a 01978 298993 neu anfonwch e-bost i sion.wynne@wrexham.gov.uk
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT