Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newyddion da i rieni mewn gwaith yn Wrecsam!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Hedgehog
Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?
Arall
Dog
Pwy sy’n gofalu am eich ffrind gorau tra byddwch ar wyliau?
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Newyddion da i rieni mewn gwaith yn Wrecsam!
Pobl a lleY cyngor

Newyddion da i rieni mewn gwaith yn Wrecsam!

Diweddarwyd diwethaf: 2018/07/26 at 2:35 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Newyddion da i rieni mewn gwaith yn Wrecsam!
RHANNU

Mae Wrecsam yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod eu cynnig gofal plant a Ariennir i blant tri a pedwar mlwydd oed wedi ymestyn i saith awdurdod lleol arall ar draws Cymru, gan gynnwys Wrecsam.

Cynnwys
“Newyddion gwych i rieni”“Rhieni a darparwyr yn awyddus i dderbyn y cynnig hwn”“Fynd i’r afael â thlodi plant yn Wrecsam”

O dan y cynnig gofal plant, bydd rhieni sy’n gweithio yn derbyn cyfanswm cyfunol o 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yn ystod y tymor a hyd at 30 awr yr wythnos am hyd at naw wythnos o wyliau’r ysgol. Bydd yr addysg gynnar am ddim presennol a ddarperir gan y Cyfnod Sylfaen yn rhan o’r cynnig hwn.

Bydd rhieni cymwys yn derbyn hyd at 48 awr y flwyddyn o ofal plant a ariennir tra mae eu plant tri a pedwar mlwydd oed yn mynychu Addysg Gynnar a Ariennir neu Feithrinfa Cyfnod Sylfaen.

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

“Newyddion gwych i rieni”

Dywedodd Audrey Somerton Edwards, Cadeirydd Partneriaeth Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Wrecsam: “Mae’r Bartneriaeth Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a gofal plant yn gwbl gefnogol i weithredu’r cynnig gofal plant hwn.  Mae’n rhoi cyfle i Wrecsam ddod ag Addysg y Blynyddoedd Cynnar a darpariaeth gofal plant ynghyd mewn modd sydd o fudd i’r ddau.

“Mae’n newyddion gwych i rieni, plant, Addysg Gynnar a darparwyr gofal plant yn Wrecsam”.

Yng Ngogledd Cymru, fel un o’r awdurdodau peilot, mae Sir y Fflint wedi arwain datblygiad y cynnig gofal plant, ynghyd â Gwynedd ac Ynys Môn, a bellach mae ar gael yn Wrecsam a Chonwy.

Bydd Sir y Fflint yn cynnig eu harbenigedd i Gyngor Wrecsam wrth i ni gyflwyno’r cynnig. Yn y ffordd yma, bydd Wrecsam yn gallu gwneud y mwyaf o’r nifer o rieni a darparwyr gofal plant sy’n derbyn y cynnig.

Gall rhieni Wrecsam nawr ymgeisio ar-lein, drwy dudalen gwefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam neu dudalen gwefan Cynnig Gofal Plant Sir y Fflint, drwy ddolen i’r system ar-lein Sir y Fflint sydd wedi hen sefydlu.

“Rhieni a darparwyr yn awyddus i dderbyn y cynnig hwn”

Meddai’r Cynghorydd William Baldwin, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant:

“Rwyf wrth fy modd bod Wrecsam wedi’i ddewis gan Lywodraeth Cymru i weithredu’r cynnig gofal plant fel Gweithredwr Buan o fis Medi eleni. “

Bydd y cynnig hwn yn helpu mwy o rieni i weithio, gan wybod bod eu plant yn derbyn gofal mewn lleoliad o ansawdd uchel.

“Mae rhieni a darparwyr gofal plant yn Wrecsam yn awyddus i dderbyn y cynnig hwn ac rydym yn hyderus bod y system ar-lein ardderchog a ddatblygwyd gan Gyngor Sir y Fflint yn gwneud y broses o ymgeisio mor rhwydd â phosibl.”

Yn Wrecsam, bydd y cynnig gofal plant yn cael ei weithredu gyntaf yn y wardiau canlynol ym mis Medi 2018: Bronington, Brymbo, Coedpoeth, Dwyrain a Gorllewin Gresffordd, Gwersyllt Dwyrain a’r De, Gwersyllt Gogledd, Gwersyllt Gorllewin, Holt, Llai, Marford a Hoseley, New Broughton, yr Orsedd, Owrtyn a Phonciau.

Dylai rhieni sydd eisiau gwybod mwy gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ar fis@wreham.gov.uk neu 01978 292094. Bydd gweddill Wrecsam hefyd yn mynd yn fyw yn ystod y flwyddyn, gyda’r ardaloedd nesaf i’w cyhoeddi’n fuan.

“Fynd i’r afael â thlodi plant yn Wrecsam”

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi: “Bydd y cynnig hwn yn helpu i gefnogi lles plant a’u teuluoedd a bydd yn helpu i fynd i’r afael â thlodi plant yn Wrecsam yn uniongyrchol drwy gynyddu incwm gwario cartrefi teuluoedd sy’n gweithio.”

Os yw rhieni yn y grŵp cyntaf angen mwy o wybodaeth ynglŷn â’i chymhwyster am y cynnig gofal plant, gallent eu hedrych ar-lein yma.

Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy’r Gwasanaeth Gwybodaeth Deuluol Wrecsam at fis@wrexham.gov.uk neu ar 01978 292094.

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/community_services/flytipping.htm “] DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Challenge Fund Business Support A all eich busnes chi ddefnyddio’r gronfa hon i gefnogi pobl yn y gweithle?
Erthygl nesaf Wrexham Council Tourist Information Centre Prynwch eich tocynnau digwyddiadau yn y Ganolfan Groeso!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor Awst 20, 2025
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg Awst 19, 2025
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Awst 19, 2025
Hedgehog
Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?
Arall Awst 19, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol

Awst 20, 2025
Home-Start Baby Bank project
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol

Awst 19, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
DigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam

Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Pobl a lle

Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol

Awst 13, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English