Mae prosiect treftadaeth pwysig, sy’n edrych ar wella asedau diwydiannol a chynhanesyddol gorau Wrecsam, wedi derbyn newyddion da iawn sy’n golygu y gallan nhw ailwampio un o nodweddion mwyaf adnabyddus yr ardal.
Mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo wedi derbyn cadarnhad gan y Gronfa Loteri Fawr eu bod nhw wedi llwyddo i sicrhau £1.1 miliwn i atgyweirio’r hen Weithdy Peiriannau – un o nodweddion mwyaf amlwg o orffennol diwydiannol a hanes gwaith dur Brymbo.
Y cynlluniau ar gyfer y Gweithdy Peiriannau
Wedi ei godi yn y 1920au, roedd y Gweithdy Peiriannau yn rhan bwysig iawn o weithgareddau dyddiol y gwaith dur, yn turnio darnau ac atgyweiriadau ar gyfer y melinau rolio dur.
Ers 2005 hwn yw’r unig adeilad sydd ar ôl o’r gwaith dur, sydd heddiw yn ganolfan ar gyfer gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth.
Mae gwirfoddolwyr wedi gwneud rhywfaint o waith ar yr adeilad, gan ei ddefnyddio i fragu seidr, darparu lluniaeth i ymwelwyr ac arddangos ffosiliau o’r Goedwig Ffosiliau gerllaw ac eitemau o oes aur y gwaith dur.
Ond mae angen diddosi ac insiwleiddio’r adeilad, a thrwsio paenau ffenestr sydd wedi torri yn ogystal â thyllau yn y to.
Diolch i’r £1.1 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr bydd y Gweithdy Peiriannau yn cael bywyd newydd, gan gynnwys to, ffenestri a llawr newydd.
Rhagwelir y bydd y gwaith yn dechrau yn yr haf, gyda’r adeilad yn agor ar ei newydd wedd yn ystod gwanwyn 2019.
Ystafelloedd ar gyfer digwyddiadau a hyfforddiant
Bydd y rhan flaen yn cael ei defnyddio i gynnal digwyddiadau celfyddydol, arddangosfeydd a nosweithiau adloniant, a dechrau 2019 bydd digwyddiadau yn cael eu rhoi ar brawf i weld beth sy’n gweithio. Fe all yr ardal hefyd ddod yn ofod derbynfa a phrif ardal arddangos pan fydd y safle yn ailagor yn 2021.
Bydd cefn y Gweithdy Peiriannau yn cael ei droi’n weithdy unwaith eto, gan greu gofod i gynnal hyfforddiant adeiladu gyda chymorth Coleg Cambria a darparwyr eraill.
Bydd y rheiny sy’n cael eu hyfforddi yn y gweithdai newydd hefyd yn derbyn cyfle i fod yn rhan o’r gwaith ailddatblygu pellach yn ardal treftadaeth Brymbo, gan gynnwys y platfformau rheilffordd cul a’r platfformau garej.
Meddai’r Cyng. Paul Rogers, Aelod Lleol Brymbo: “Mae Cyngor Wrecsam wedi cefnogi gwaith Prosiect Treftadaeth Brymbo ers y cychwyn cyntaf, ac mae’n braf clywed y bydd yr hen Weithdy Peiriannau ymhlith y nodweddion cyntaf i gael eu hadfywio, diolch i gyllid y Gronfa Loteri Fawr.
“Mae’r adeilad hwn yn golygu llawer iawn i bobl Brymbo ac yn rhan fawr o hanes yr ardal, felly mae’n beth da iawn mai’r adeilad hwn sy’n cael ei weddnewid yn gyntaf.”
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT