Mae disgyblion Wrecsam yn dathlu heddiw wrth gael eu canlyniadau Lefel A.
Mae gan ddisgyblion yn nosbarthiadau’r chweched ar draws Wrecsam ddigon i’w ddathlu, gyda chanlyniadau’n debyg i rai blwyddyn ddiwethaf, a chynnydd arwyddocaol yn y canran o ddisgyblion yn cyrraedd graddau A* ac A.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Rhaid i ni longyfarch ein holl ddisgyblion sydd wedi gweithio’n galed i gael y canlyniadau yma – fe ddylen nhw fod yn falch iawn ohonynt eu hunain.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
“Dylem ni longyfarch athrawon, rhieni, gofalwyr a staff yr ysgolion hefyd a dwi’n dymuno’n dda i’n holl ddisgyblion wrth iddynt fynd ymlaen i addysg uwch, hyfforddiant neu waith.”
Dywedodd Ian Roberts, Pennaeth Addysg Wrecsam: “Rydym wedi gweld llwyddiannau ardderchog gan ddisgyblion at bob lefel o allu, ac rwyf eisio diolch i’r ysgolion a’u hathrawon am eu hymrwymiad a’i phroffesiynoliaeth wrth gefnogi eu dysgwyr – a hefyd i’r rhieni am eu cefnogaeth.
“Rwy’n dymuno’r gorau i bob un o’n dysgwyr am y dyfodol.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION