Cymru yn cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd, Statws Dinas, cais Dinas Diwylliant, CPD Wrecsam yn chwarae yn Wembley ac yn colli o drwch blewyn i gael eu hyrwyddo yn nhymor llawn cyntaf ers i Rob a Ryan gymryd drosodd fel perchnogion, Cynlluniau Datblygu Cop, Gôl Mullin, Tŷ Pawb ar restr fer Amgueddfa’r Flwyddyn!
Mae yna gymaint wedi bod yn digwydd yn Wrecsam yn ddiweddar, mae’n hawdd anghofio bod cynlluniau yn datblygu i greu Amgueddfa Bêl-droed i Gymru ynghyd ag Amgueddfa newydd i Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw yn Wrecsam.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Wrecsam yw cartref ysbrydol Pêl-droed Cymru a’n cynlluniau uchelgeisiol i wneud Wrecsam yn safle pererindod cefnogwyr pêl-droed! Mae pêl-droed yn rhan o’r gymuned a bywyd bob dydd i lawer o bobl felly mae’n gwneud synnwyr i greu profiad ymwelwyr sy’n dod â threftadaeth chwaraeon a threftadaeth cymuned ynghyd.
Mae staff yr amgueddfa, Haley Sharpe Design, Purcell (Penseiri) yn ogystal â phartneriaid prosiect pwysig eraill wedi bod yn datblygu’r dyluniadau ar gyfer amgueddfa Pêl-droed Cenedlaethol Cymru, gyda gwaith yn datblygu yn ystod y misoedd diwethaf.
Y iard uchder dwbl newydd gyda delweddau gweledol ac arddangosfa ffilm yn seiliedig ar thema Cryfach Gyda’n Gilydd: Cymru, Wrecsam a Phêl-droed.
Mae’r penseiri a dylunwyr wedi paratoi cynlluniau sy’n rhagweld:
- Roedd y prif oriel bresennol wedi dychwelyd i’w defnydd gwreiddiol fel canolbwynt iard, ond yn gaeedig ac yn cynnwys lifft a grisiau i’r llawr cyntaf.
- Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn cael ei lleoli o amgylch Llys Rhif 1 (ystafell llys mawr)
- Amgueddfa Wrecsam yn canolbwyntio ar Lys Rhif 2 ac ochr ddwyreiniol adeilad yr amgueddfa.
- Canolbwynt dysgu a chymunedol newydd ar y blaengwrt, yn darparu lle dysgu a digwyddiadau hygyrch diweddaraf am y tro cyntaf erioed, i’w ddefnyddio gan ysgolion, grwpiau cymunedol ac ar gyfer gweithgareddau gwyliau.
- Oriel arddangosfa estynedig dros dro wedi’i ehangu i’r hen iard ymarfer.
- Parth plant ar y llawr gwaelod.
- Ardal gyflwyniad dawelach i’r sawl sy’n cael budd o fannau o’r fath.
- Caffi wedi’i ehangu yn darparu seddi ychwanegol yn y swyddfa archifau wedi’i hailbwrpasu, ynghyd â seddi yn y tu blaen yn ymestyn a lledaenu i’r blaengwrt.
- Siop fwy yn galluogi’r amgueddfa i werthu cofroddion sy’n ymwneud â phêl-droed a Chymru, yn arbennig wedi’i dargedu at deithwyr dyddiol a phobl ar eu gwyliau.
Mae’r tîm prosiect wedi bod yn ymgynghori gyda grwpiau yn cynrychioli cefnogwyr pêl-droed, hanesyddion, pobl yn ymwneud â dysgu, pobl anabl ac ystod amrywiol o grwpiau cymunedol ac unigolion sy’n hoffi ymweld ag amgueddfeydd. Mae eu hadborth eisoes yn llywio dyluniad a chynnwys i helpu i sicrhau y bydd yr amgueddfa newydd y gorau y gall fod.
Mae’r cysyniad o’r dyluniadau ar gyfer yr orielau pêl-droed yn rhagweld ymwelwyr yn mynd i mewn drwy brofiad trochi cyflwyniadol yn creu awyrgylch ar gyfer stori pêl-droed a stori Cymru i’w hadrodd drwy bêl-droed…
O’r fan honno, byddant yn symud i Lys Rhif 1, y lle mwyaf yn yr amgueddfa. Bydd y lle hwn yn rhannu yn dair ardal eang:
- Ffyddloniaid a Chystadleuwyr fydd yn canolbwyntio ar bêl-droed yng Nghymru ar lefel clwb, o’r clybiau mawr i lawr i’r lefel llawr gwlad.
- Tor calon a Gogoniant, fydd yn adrodd stori timau dynion a merched Cymru a’u lwc anhygoel dros y blynyddoedd.
- Ar y Teras, ble rydym yn canolbwyntio ar y cefnogwyr a diwylliant pêl-droed Cymru ac yn cynnwys hyd yn oed mwy o ryngweithio i ymwelwyr ifanc.
Llun cysyniad golygfa o’r orielau wedi eu cynllunio ar gyfer Amgueddfa Bêl-droed Cymru
Mae yna lawer mwy o waith i fynd i’r dyluniadau hyn, yn cynnwys nid yn unig staff yr amgueddfa a’r paneli ymgynghori yr ydym wedi eu sefydlu, ond pobl ar draws Cymru, un ohonynt drwy waith y Swyddogion Ymgysylltu a fydd yn cael eu recriwtio dros yr haf i weithredu fel llysgennad crwydr ar gyfer yr amgueddfa bêl-droed.
Fel yn yr orielau pêl-droed, bydd ymwelwyr yn mynd i mewn i orielau Amgueddfa Wrecsam drwy barth trochi rhagarweiniol fydd yn amlygu stori caleidosgopig o Wrecsam.
Bydd orielau Amgueddfa Wrecsam yn seiliedig ar bump thema yn gysylltiedig â phobl a lleoedd y bwrdeistref sirol:
- Dechreuadau – yma mae’r ffocws ar archaeoleg, gan ailarddangos deunydd Dyn Brymbo, yr Oes Efydd a Rhufeinig.
- Diwydiant a Masnach – bydd yr ystafell hon yn canolbwyntio ar ein treftadaeth ddiwydiannol ac amaethyddol, datblygu tref farchnad Wrecsam a’r byd gwaith yn Wrecsam.
- Gwrthdaro a Chael Pethau’n Anodd – mae’r thema hon yn ymwneud â chyfnod anodd diwydiannol ac anawsterau, a hefyd y Rhyfeloedd Byd a’u heffaith ar Wrecsam a’i bobl.
- Bywyd Bob Dydd – mae’r adran hon yn ymroddedig i destunau fel newidiadau yn y cartref, camau bywyd, iechyd a meddyginiaeth, hamdden ac amser rhydd.
- Cymunedau – bydd yr oriel thema olaf yn adrodd straeon y nifer o grwpiau gwahanol sy’n rhan o Wrecsam, gan gynnwys Pwyliaid Llannerch Banna, Portiwgeaidd, alltudiaid Wrecsam a gwyliau diwylliannol.
Dywedodd Aelod Arweiniol amgueddfeydd, Cyng Paul Roberts: “Yn gyffredinol, mae llawer wedi’i gyflawni, ond mae yna lawer mwy i’w wneud i sicrhau ein bod ni, gyda chymorth a chefnogaeth pobl a chymunedau Wrecsam ac ar draws Cymru, yn gweithio gyda’n gilydd, yn gallu creu Amgueddfa Bêl-droed i Gymru ac Amgueddfa newydd i Wrecsam sy’n addas ar gyfer cartref ysbrydol pêl-droed Cymru a dinas ddiweddaraf Cymru”.
Dywedodd Ian Bancroft, cadeirydd y grŵp llywio: “Mae’n gyfnod cyffrous iawn i bêl-droed yng Nghymru a Wrecsam, cartref ysbrydol pêl-droed Cymru. “Mae pêl-droed yn chwarae rhan enfawr yn ein hunaniaeth, diwylliant a threftadaeth. “Mae’n wych gweld cynlluniau ar gyfer Amgueddfa Wrecsam ac amgueddfa bêl-droed Wrecsam yn datblygu wrth i ni edrych ymlaen at gyflawni’r prosiect cyffrous hwn yn 2025.”
Gallwch gadw mewn cysylltiad gyda beth sy’n digwydd drwy:
- Ddilyn yr amgueddfa ar Facebook a twitter
- Ymuno â rhestr e-bost yr amgueddfa:arwyddo i rhestr e-bost
- Ddilyn Facebook ac Twitter Amgueddfa Bêl Droed
- Drwy ymweld â’r amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw, ble gallwch weld yr arddangosfa ddiweddaraf a gynhyrchwyd mewn partneriaeth gyda’r Llyfrgell Brydeinig a myfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH