Fe fydd Caffi Cyfle, sydd wedi ei leoli ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, yn ailagor ar gyfer lluniaeth ysgafn i fynd o ddydd Sadwrn, Awst 1, 2020.
Mae Caffi Cyfle, sydd wedi ei leoli yn y ganolfan ymwelwyr ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, wedi ei redeg gan yr elusen leol Groundwork Gogledd Cymru ers Ebrill 2019. Fel pob sefydliad trydydd sector cafodd ei daro’n galed pan ddechreuodd y cyfnod clo.
Mae ymwelwyr wedi eu croesawu yn ôl i’r parc ers amser bellach ac yn dilyn cynnal adolygiad safle yn ymwneud â chanllawiau Covid-19 fe fydd Caffi Cyfle yn ailagor o Awst 1af ar sail bwyd i fynd yn unig gan gynnig lluniaeth ysgafn. Fe fydd Caffi Cyfle ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 10am tan 4.30pm.
Fe fydd y gwasanaeth ychydig yn wahanol ac yn cael ei gynnal o’r ystafell amlbwrpas yng nghefn yr adeilad gan ganiatáu mwy o ofod ar gyfer cadw pellter cymdeithasol. Bydd arwyddion yn dangos y system giwio unffordd a fydd mewn grym.
“Edrych ymlaen at agor gwasanaeth bwyd i fynd Caffi Cyfle”
Dywedodd Lorna Crawshaw – Pennaeth Rhaglenni a Phartneriaethau gyda Groundwork Gogledd Cymru “Rydym yn edrych ymlaen at agor gwasanaeth bwyd i fynd Caffi Cyfle i gwsmeriaid yn y Parc. Rydym wir eisiau mynd yn ôl i gynnig y cyfle i gael lluniaeth pan rydych allan gyda’ch teulu a’ch ffrindiau a bydd ein gwasanaeth bwyd i fynd yn ogystal â mesurau diogelwch ychwanegol yn sicrhau ein bod yn cadw ein cwsmeriaid a thîm Caffi Cyfle yn ddiogel.”
Mae ffioedd parcio yn Nyfroedd Alun wedi eu hatal ar hyn o bryd tan ddiwedd mis Medi yn unol â meysydd parcio eraill Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy’n golygu fod Dyfroedd Alun yn lle delfrydol i ddod am ddiwrnod allan yn ystod gwyliau’r ysgol.
Ar hyn o bryd er mwyn cadw at y canllawiau cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr a argymhellir gan y llywodraeth fe fydd y toiledau cyhoeddus yn parhau ar gau. Fe fyddwn yn aros am gyngor pellach ac yn rhoi gwybod i bobl pan fydd hi’n ddiogel i ni agor y toiledau i’r cyhoedd. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Fe allwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am holl brosiectau Groundwork Gogledd Cymru drwy fynd i www.groundworknorthwales.org.uk a’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol @GwkNorthWales.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN