Mae Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd wedi cyhoeddi y bydd gwelliannau i wasanaeth lein Wrecsam i Bidston yn cael ei deimlo gan Drafnidiaeth Cymru a GB Railfreight.
Roedd angen adolygiad annibynnol gan fod y ddau weithredwr wedi gwneud cais am gapasiti nad allai gael eu lletya gyda’i gilydd.
Ar hyn o bryd, mae gwasanaeth Wrecsam i Bidston bob awr yn cael ei weithredu gan Drafnidiaeth Cymru, tra bod GBRf yn defnyddio rhannau o’r trac i wasanaethu Glannau Dyfrdwy ac Avonmouth o Waith Sment Padeswood.
Mae trenau cludo nwyddau hefyd yn gwasanaethu Gwaith Sment Padeswood a bellach gallent barhau gyda gwell sicrwydd diolch i sail gontract gadarn. Bydd pob trên cludo nwyddau yn tynnu tua 36 o Gerbydau Nwyddau Trwm oddi ar y ffyrdd.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd sydd â chyfrifoldeb dros gludiant strategol, “Rwy’n croesawu’r newyddion fod Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd wedi cytuno i ganiatáu dau drên bob awr ar lein Wrecsam i Bidston.
“Mae wedi bod yn nod i Gyngor Wrecsam ers tro i gael gwasanaeth bob 30 munud ac mae’n cefnogi ein rhaglen ddatgarboneiddio. Byddaf yn pwyso ar Drafnidiaeth Cymru i gael dyddiad dechrau.”
Dywedodd Stephanie Tobyn, Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Diwygio yn Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd: “Rydym yn falch o gyrraedd penderfyniad sy’n hyrwyddo twf teithwyr a chludo nwyddau yn unol â’n dyletswyddau drwy gynyddu’r gwasanaethau i deithwyr a rhoi’r trenau cludo nwyddau sy’n gwasanaethu’r gwaith sment ar sail gontract gadarn.
“Roedd ein hadolygiad o’r ceisiadau yn nodi meysydd lle mae angen i Network Rail wella ei reolaeth o roi mynediad i’r rhwydwaith reilffordd. Byddwn yn parhau i fonitro llwybr Cymru a’r Gororau ar y materion hyn.”
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI