Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Yn rhentu eich cartref? Fe allai Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) â sgôr da helpu i gadw eich biliau ynni i lawr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Yn rhentu eich cartref? Fe allai Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) â sgôr da helpu i gadw eich biliau ynni i lawr
ArallY cyngor

Yn rhentu eich cartref? Fe allai Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) â sgôr da helpu i gadw eich biliau ynni i lawr

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 30, 2022 2:53 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Renting your home?
RHANNU

Os ydych chi’n rhentu eich cartref – neu’n ystyried rhentu – gofynnwch i’r landlord ddangos y Dystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) ar gyfer yr eiddo i chi.

Bydd TPY yn dweud wrthych pa mor effeithlon yw’r adeilad o ran ynni, a gallai rhoi syniad i chi o beth fydd y costau gwresogi.

Yn ôl y gyfraith, mae’r mwyafrif o eiddo yng Nghymru angen TPY cyn iddynt gael eu rhentu.

Yr unig eithriadau yw fflatiau un ystafell neu osod ystafell a rhannu cegin, toiled neu ystafell ymolchi, ac ystafelloedd mewn neuaddau preswyl neu hosteli.

Mae sgoriau TPY yn amrywio o ‘A’ i ‘G’ – ‘A’ yw’r sgôr gorau, a ‘G’ yw’r gwaethaf.

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Allech chi ymgeisio am grant?

Y Cynghorydd David A Bithell yw Aelod Arweiniol Tai Cyngor Wrecsam, ac mae’n gadeirydd gweithgor trawsbleidiol a sefydlwyd i gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw.
Dywedodd:

“Os ydych chi’n rhentu neu’n ystyried rhentu, mae hi werth gofyn i’r landlord am gopi o’r TPY.

“Mae costau ynni sy’n codi yn ei gwneud hi’n fwy drud i gynhesu cartref, ond gallai byw mewn eiddo sydd yn effeithlon o ran ynni helpu i gadw eich biliau tanwydd i lawr.

“Oni bai bod eiddo wedi’i eithrio, fe ddylai eiddo sy’n cael ei rentu fod â sgôr o leiaf ‘E’. Os yw’r sgôr yn is, fe allai eich landlord fod yn torri’r gyfraith.

“Fel tenant, efallai y bydd modd i chi wella’r adeilad drwy ymgeisio am grant effeithlonrwydd ynni, neu drwy annog eich landlord i ymgeisio.

“Gofynnwch am sgwrs i weld os allwch chi gydweithio.”

Gallwch ddysgu mwy am Dystysgrifau Perfformiad Ynni a grantiau effeithlonrwydd ynni ar wefan Cyngor Wrecsam.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Solar PV Sicrhau cyllid ar gyfer paneli solar ar ganolfannau hamdden yn Wrecsam
Erthygl nesaf Wrecsam Cyffredinol Wrexham General Newyddion gwych wrth i Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd gymeradwyo gwasanaeth pob 30 munud ar Lein Wrecsam i Bidston

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English