Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newyddion gwych wrth i Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd gymeradwyo gwasanaeth pob 30 munud ar Lein Wrecsam i Bidston
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Newyddion gwych wrth i Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd gymeradwyo gwasanaeth pob 30 munud ar Lein Wrecsam i Bidston
ArallPobl a lle

Newyddion gwych wrth i Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd gymeradwyo gwasanaeth pob 30 munud ar Lein Wrecsam i Bidston

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 30, 2022 3:17 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
RHANNU

Mae Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd wedi cyhoeddi y bydd gwelliannau i wasanaeth lein Wrecsam i Bidston yn cael ei deimlo gan Drafnidiaeth Cymru a GB Railfreight.

Roedd angen adolygiad annibynnol gan fod y ddau weithredwr wedi gwneud cais am gapasiti nad allai gael eu lletya gyda’i gilydd.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Ar hyn o bryd, mae gwasanaeth Wrecsam i Bidston bob awr yn cael ei weithredu gan Drafnidiaeth Cymru, tra bod GBRf yn defnyddio rhannau o’r trac i wasanaethu Glannau Dyfrdwy ac Avonmouth o Waith Sment Padeswood.

Mae trenau cludo nwyddau hefyd yn gwasanaethu Gwaith Sment Padeswood a bellach gallent barhau gyda gwell sicrwydd diolch i sail gontract gadarn. Bydd pob trên cludo nwyddau yn tynnu tua 36 o Gerbydau Nwyddau Trwm oddi ar y ffyrdd.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd sydd â chyfrifoldeb dros gludiant strategol, “Rwy’n croesawu’r newyddion fod Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd wedi cytuno i ganiatáu dau drên bob awr ar lein Wrecsam i Bidston.

“Mae wedi bod yn nod i Gyngor Wrecsam ers tro i gael gwasanaeth bob 30 munud ac mae’n cefnogi ein rhaglen ddatgarboneiddio. Byddaf yn pwyso ar Drafnidiaeth Cymru i gael dyddiad dechrau.”

Dywedodd Stephanie Tobyn, Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Diwygio yn Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd: “Rydym yn falch o gyrraedd penderfyniad sy’n hyrwyddo twf teithwyr a chludo nwyddau yn unol â’n dyletswyddau drwy gynyddu’r gwasanaethau i deithwyr a rhoi’r trenau cludo nwyddau sy’n gwasanaethu’r gwaith sment ar sail gontract gadarn.

“Roedd ein hadolygiad o’r ceisiadau yn nodi meysydd lle mae angen i Network Rail wella ei reolaeth o roi mynediad i’r rhwydwaith reilffordd. Byddwn yn parhau i fonitro llwybr Cymru a’r Gororau ar y materion hyn.”

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Renting your home? Yn rhentu eich cartref? Fe allai Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) â sgôr da helpu i gadw eich biliau ynni i lawr
Erthygl nesaf Don't Blow Christmas Peidiwch â Diffodd y ‘Dolig – Lansio Ymgyrch Nwyddau Trydanol Ffug

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English