Mae arddangosfa hynod ddiddorol wedi agor yn Llyfrgell Wrecsam i goffau dyn a gafodd effaith sylweddol ar y dref, ac ar y rhanbarth ehangach.
Roedd Thomas Penson yr ieuengaf yn un o’r penseiri mwyaf toreithiog a weithiai yng Nghymru a Swydd Amwythig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Bydd unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd y ffin wedi gyrru dros bontydd Penson: bu’n Syrfëwr Sirol ar gyfer Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn ac adeiladodd nifer o strwythurau sy’n dal i gael eu defnyddio, mewn carreg a haearn. Ond dim ond un agwedd ar ei waith oedd hynny.
Dros yrfa yn ymestyn dros ddeugain mlynedd dyluniodd Thomas Penson bob math o adeilad mewn amrywiaeth o arddulliau, ac fe arloesodd y defnydd o deracota mewn pensaernïaeth.
Mae’r arddangosfa ar lawr cyntaf llyfrgell Wrecsam ac mae i’w gweld am ddim trwy gydol mis Awst.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH