Mae gennym gyfle gwych i unrhyw blentyn sy’n gorffen Sialens Ddarllen yr Haf eleni!
Os cwblhewch yr her o ddarllen chwe llyfr llyfrgell dros dri ymweliad â’r llyfrgell dros wyliau’r haf bydd eich enw yn cael ei roi mewn raffl i ddod yn Llyfrgellydd am Ddiwrnod!
Byddwch yn dysgu’r holl weithgareddau y tu ôl i’r llenni rydym yn eu cynllunio sy’n gwneud ein llyfrgelloedd yn ganolfannau darllen prysur yr ydych yn eu mwynhau, a byddwch yn cael cyfle i weithio y tu ôl i’r cownter i wasanaethu rhai o’n cwsmeriaid ffyddlon. Beth ydych chi’n aros amdano … darllenwch heddiw!
Gweithgareddau haf yn Llyfrgell Rhiwabon
Os ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud yr haf hwn beth am fynd draw i lyfrgell Rhiwabon lle byddan nhw’n cynnal gweithgareddau hwyliog i’r teulu dros wyliau’r ysgol. Ymunwch â nhw am Lego i’r teulu, gemau bwrdd i’r teulu, sesiynau crefft ac ymweliad arbennig gan Seren a Sbarc (masgotiaid plant) ac Xpolre! y ganolfan darganfod gwyddoniaeth. Am ragor o fanylion cysylltwch â’r llyfrgell ar Rhiwabon.library@wrexham.gov.uk / 01978 822002.
Crefftau Haf i’r Teulu yn Llyfrgell Brynteg
Ymunwch â ni yr haf hwn yn Llyfrgell Brynteg ar gyfer sesiynau crefft sy’n canolbwyntio ar y teulu. Cynhelir y sesiwn nesaf ddydd Mercher 31 Gorffennaf, 3.00-4.30pm, lle byddwn yn gwneud creaduriaid Origami. Mae’r sesiynau dilynol yn cynnwys gweithdy Ysgrifennu Creadigol, a gweithdy Paentio Bocs Pensil. Mae’r sesiynau hyn yn rhad ac am ddim ac yn addas i blant 6+. Mae lleoedd yn gyfyngedig; i gadw eich lle cysylltwch â’r llyfrgell ar 01978 759523 neu Brynteg.library@wrexham.gov.uk
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Dylanwadwyr Ifanc yn gadael argraff wrth helpu pobl ifanc ddigartref