Wrth i ni ddechrau mwynhau arwyddion cyntaf yr haf, mae’n hawdd anghofio’r oerfel, yr eira a’r rhew sydd newydd fod, a hyd yn oed yn haws anghofio faint yn union a gostiodd hi i wneud yn siŵr bod y ffyrdd yn aros ar agor er mwyn i ni i gyd allu teithio i’r gwaith a chyrraedd adref.
Mae cost cadw’r ffyrdd yn glir i’r awdurdodau lleol wedi bod yn destun erthygl ddiweddar gan y BBC, ond wnaethon nhw ddim sôn am y gost i Wrecsam – roeddem ni’n meddwl yr hoffech chi wybod faint yn union oedd y swm hwnnw.
” Mae hynny’n bron i £1 miliwn”
Bu i ni gychwyn cyfnod y gaeaf gyda chyllideb o £587,000 a gafodd ei wario’n gyfan gwbl, oedd yn golygu y bu’n rhaid i ni ddefnyddio’r gronfa wrth gefn arbennig ar gyfer yr amgylchedd o £300,000 wrth i’r tywydd barhau i fod yn oer a rhewllyd. Ar ddiwedd cyfnod y gaeaf, a barodd o ddiwedd Hydref tan fis Mawrth eleni, pan gipiodd y ‘Beast from the East’ y tudalennau blaen gan ein gorfodi ni i lapio’n gynnes, roeddem wedi gwario £62,000 yn fwy, a ddaeth o’n cronfeydd wrth gefn cyffredinol. Mae hynny’n bron i £1 miliwn, ond does yna ddim dewis arall ond gwario fel hyn pan fo’r tywydd yn mynnu hynny.
Roedd hi’n aeaf gwirioneddol oer, gyda dros 10,000 tunnell o raean yn cael ei ledaenu er mwyn trin y rhwydwaith ffyrdd ymlaen llaw, a dal i’w drin er mwyn cadw’r ffyrdd ar agor ac yn ddiogel i’w defnyddio. Roedd hyn wedi bod yn digwydd ers cyn y Nadolig, sy’n anarferol iawn gan nad ydym yn gorfod graeanu fawr ddim cyn y Nadolig fel arfer.
Fyddwn ni ddim yn llaesu dwylo dros yr haf chwaith. Byddwn yn cynnal a chadw ein fflyd o lorïau graeanu er mwyn iddyn nhw fod yn barod pan fydd eu hangen nhw’r tymor nesaf. Byddwn yn cadw lefel o 10,000 o dunelli o raean a bydd unrhyw yrwyr newydd yn cael eu hyfforddi er mwyn bod yn barod i weithio cyn gynted ag y bydd yr haf drosodd, fydd ddim am rai misoedd eto gobeithio!
“Gwasanaeth Safon Uchel”
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd hi wir yn aeaf hir, oer a rhewllyd iawn ac fel pawb arall, rydw i’n falch o weld ei gefn. Rydym wedi cynnal cyllideb gynnal a chadw’r gaeaf gyson hyd yn oed drwy’r cyfnod hwn o galedi ariannol, gan ei bod yn hanfodol i ni gadw’r ffyrdd yn glir, ac yn bwysicach fyth, yn ddiogel i’w defnyddio. Wyddon ni byth beth i’w ddisgwyl dros y gaeaf, ond rydw i’n falch iawn bod y gwasanaeth rydym ni’n parhau i’w gynnig yn dal i fod o ansawdd uchel ac nad yw’r cyfnod hwn o heriau ariannol enbyd wedi cael gormod o effaith arno.”
Cofio hwn?
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI