Wyddoch chi y gallwch bellach rentu DVDau o Lyfrgell Wrecsam?
Mae ganddyn nhw lwyth o ddewis sy’n addas i’r teulu cyfan.
Gallwch wylio’r ffilmiau mawr diweddaraf megis Bohemian Rhapsody neu hen ffefrynnau fel Harry Potter, bocs-setiau, cyfresi teledu, sioeau cerdd, ffilmiau plant…. a llawer mwy 🙂
Codir tâl bach iawn am eu llogi a gallwch eu benthyg am wythnos.
Os ymunwch â’r cynllun teyrngarwch DVDau fe gewch chi un DVD am ddim!
Os hoffech fwy o wybodaeth am hyn galwch heibio i’r llyfrgell yng nghanol y dref neu ffoniwch 01978 292090.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]