Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiadau i nodi 10 mlynedd o Safle Treftadaeth y Byd y Draphont Ddŵr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Digwyddiadau i nodi 10 mlynedd o Safle Treftadaeth y Byd y Draphont Ddŵr
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Digwyddiadau i nodi 10 mlynedd o Safle Treftadaeth y Byd y Draphont Ddŵr

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 3, 2019 12:25 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Trevor Basin
Pontcysyllte Aqueduct, World Heritage site in Wrexham
RHANNU

Mae gennym lu o atyniadau ardderchog ar stepen ein drws yn Wrecsam.

Ac yn ddiweddarach yn yr haf, byddwn yn nodi degawd ers i rai o’n hatyniadau hanesyddol gorau dderbyn cydnabyddiaeth ryngwladol.

Bydd 27 Mehefin yn nodi 10 mlynedd ers y cofrestrwyd Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn Safle Treftadaeth y Byd (WHS) gan UNESCO.

ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?

Rydym ni – ynghyd â phartneriaid ar Fwrdd Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte – wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol yr haf ac ymhell i mewn i’r hydref i ddathlu’r 10fed pen-blwydd, gydag ystod o ddigwyddiadau cymunedol a chelfyddydol yn digwydd ar draws arwynebedd 11 milltir yr WHS, yn ogystal â’r draphont ddŵr ei hun.

Ymhlith y digwyddiadau i ddod mae sesiynau adeiladu traphont ddŵr Lego yng nghanolfan ymwelwyr Glandŵr Cymru yn Nhrefor; gweithdy celf yng Nghorwen a Llangollen a reolir gan Gyngor Sir Ddinbych ; cystadleuaeth ffotograffiaeth dan arweiniad Cyngor Wrecsam i dynnu sylw at nifer o’r golygfeydd yn ardal yr WHS –  a llawer mwy.

Ar 29 Mehefin, bydd diwrnod o hwyl cymunedol yn cael ei gynnal ym Masn Trefor, gyda chwryglau a chychod camlas yn agored i’r cyhoedd, amryw o stondinau a gweithgareddau cymunedol – a bydd Techniquest Glyndŵr wrth law i gynnig golwg agosach ar adeiladu traphontydd dŵr a phontydd.

Ond nid dyna fydd y diwedd ar yr hwyl – byddwn yn cael yr hwyl a’r goleuadau llachar arferol O Dan y Bwâu a bydd 10fed pen-blwydd y draphont ddŵr yn cael ei adlewyrchu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Ac fel rhan o’r dathliadau, rydym hefyd yn gwahodd plant i gymryd rhan mewn cystadleuaeth farddoniaeth, a allai eu gweld yn ennill taith ar hyd Camlas Llangollen mewn cwch wedi ei dynnu gan geffyl – cewch: fwy o fanylion am gystadleuaeth farddoniaeth ar wefan Glandŵr Cymru.

Cliciwch yma i gael rhestr lawn o ddigwyddiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Cadeirydd Bwrdd Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte: “Mae’r Safle Treftadaeth y Byd yn ased aruthrol i ni yn yr ardal hon, ac yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf, mae wedi denu miloedd o bobl i’r rhan hon o Gymru.

“Roedd cydnabyddiaeth UNESCO yn haeddiannol iawn i’r ardal hon – nid yn unig oherwydd y modd yr adeiladwyd Traphont Ddŵr Pontcysyllte o haearn bwrw, y draphont ddŵr a’r draphont nodedig yn y Waun, ond hefyd yr 11 milltir o beirianneg sifil, a harddwch naturiol Rhaeadr y Bedol ger Llangollen.

“Yn ogystal â phrofi cynnydd yn ei boblogrwydd fel atyniad i dwristiaid, mae partneriaid hefyd wedi buddsoddi’n helaeth mewn gwella nodweddion a’r cyfleuster drwy gydol y Safle Treftadaeth y Byd, a gyda hynny, mae’n iawn ein bod yn cydnabod y pen-blwydd cofrestriad yr ardal gan UNESCO, a hefyd lefel y buddsoddiad a welwyd yn y safle yn ystod y ddegawd ddiwethaf.

“Hoffwn wahodd pawb i gymryd rhan yn y digwyddiadau hynny sy’n digwydd fel rhan o ddathliadau’r 10fed pen-blwydd – nid yn unig y diwrnod cymunedol sy’n cael ei gynnal ym Masn Trefor ar 29 Mehefin, ond hefyd y cystadlaethau eraill sydd i ddod i gydnabod pwysigrwydd arbennig Ardal Safle Treftadaeth y Byd.”

Ai Maethu yw’r dewis i chi?

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/life_events_w/caring/fostering/index.htm”] DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cael gwybod beth sy’n mynd ymlaen yng Nghyngor Wrecsam Cael gwybod beth sy’n mynd ymlaen yng Nghyngor Wrecsam
Erthygl nesaf Libraries Nid llyfrau yn unig sydd yn llyfrgell Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English