Yn ôl ffigyrau Cyngor Wrecsam mae nifer yr ymwelwyr i ganol y dref wedi cynyddu dros 50% ddechrau mis Chwefror.
O’u cymharu â ffigyrau’r un cyfnod yn 2017, mae nifer yr ymwelwyr rhwng 4 a 10 Chwefror 54% yn uwch.
Rydym ni’n monitro nifer yr ymwelwyr gyda chymorth Springboard – dadansoddwr manwerthu – yn seiliedig ar ffigyrau rhifydd ar Stryt yr Hôb.
Dywedodd y Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Er y bydd yn rhaid i ni, wrth reswm, edrych ar y data ehangach cyn dechrau gwneud rhagfynegiadau manylach am dueddiadau siopa ac ymwelwyr yng nghanol y dref, mae’r ffigyrau hyn yn rheswm dros fod yn obeithiol.
“Bydd y ffigyrau hefyd yn ddefnyddiol i fasnachwyr eu gosod yn erbyn neu eu cymharu â’u henillion dyddiol, a thrwy hynny gallwn fonitro adfywiad canol y dref yn fwy manwl.
“Mae’n galonogol gweld bod modd gosod y ffigyrau hyn ochr yn ochr â newyddion da eraill am ddyfodol canol y dref, yn enwedig agoriad Tŷ Pawb ar 2 Ebrill a’r newyddion gwych y bydd Techniquest Glyndŵr yn meddiannu hen adeilad TJ Hughes am 12 mis.”
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT