Beth: Diwrnod Plant y Byd UNICEF – Eich Llais yn Wrecsam
Pryd: 18 Tachwedd, 3 – 7.30pm
Mae Cyngor Wrecsam yn cynnal digwyddiad yn Nhŷ Pawb i ddathlu hawliau plant a’u lle mewn cymdeithas.
Bydd y drysau’n agor am 3pm a’r gweithgareddau’n dechrau am 4pm, ac maent yn cynnwys cynnwys bwyd am ddim, stondinau gwybodaeth a gweithgareddau chwarae. Bydd digwyddiad mhic agored felly dewch a’ch offerynnau!
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Bydd cyfle hefyd i blant a phobl ifanc ennill taleb £100 o’u dewis nhw drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth ‘Beth mae cael llais yn ei olygu i chi?’ a chreu darn o waith ysgrifenedig neu ddarn o gelf greadigol, darn o gerddoriaeth neu fideo ac ati sy’n dweud beth mae cael llais yn ei olygu iddyn nhw.
Rydym hefyd yn gofyn i bawb wisgo glas am y dydd ar 18 Tachwedd gan mai glas yw lliw cydnabyddedig Diwrnod Plant y Byd.
Felly cofiwch gadw’r 18 Tachwedd yn rhydd a chadwch lygad am y blog hwn i gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth a’r sesiwn mic agored.
Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Plant y Byd ar gael yma: https://www.unicef.org/world-childrens-day
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL