Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn atgoffa: Bydd Canolfannau Ailgylchu yn cau fel rhan o’r cyfnod atal byr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Nodyn atgoffa: Bydd Canolfannau Ailgylchu yn cau fel rhan o’r cyfnod atal byr
Y cyngor

Nodyn atgoffa: Bydd Canolfannau Ailgylchu yn cau fel rhan o’r cyfnod atal byr

Diweddarwyd diwethaf: 2021/02/26 at 2:19 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Ailgylchu Gwastraff
RHANNU

Fel rhan o’r cyfnod atal byr am bythefnos, rydym eisiau atgoffa preswylwyr y bydd ein tair canolfan ailgylchu yn cau.

Cynnwys
Pryd fydd y safleoedd yn cau?Pryd fyddent yn ailagor?Beth ddylech ei wneud tra bydd y safleoedd ar gau

Pryd fydd y safleoedd yn cau?

Bydd Bryn Lane, Plas Madoc a Brymbo yn cau am 4pm dydd Gwener, 23 Hydref.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol:

“Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, byddwn yn cau ein tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam ar gyfer y cyfnod atal byr yng Nghymru. Rydym yn gofyn i bobl fod yn gyfrifol am eu gwastraff yn ystod y cyfnod, a chadw unrhyw wastraff ychwanegol ac eitemau mawr tan fydd ein cyfleusterau yn ailagor ar ddydd Llun, 9 Tachwedd.

“Peidiwch â chael eich denu i dipio eich sbwriel… peidiwch â gadael y gwastraff wrth y giât neu ar ochr y ffordd, neu unrhyw le na ddylai gael ei adael. Gadewch i ni gyd weithio gyda’n gilydd a bod yn gyfrifol. Diolch.”

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Pryd fyddent yn ailagor?

Bydd pob safle yn ailagor dydd Llun, 9 Tachwedd, ar eu hamseroedd agor arferol:

  • Bryn Lane 8am – 8pm
  • Plas Madoc 9am – 4pm
  • Brymbo 9pm- 4pm (apwyntiadau yn unig)

Gan fod rhaid i chi wneud apwyntiad i ymweld â chyfleuster Brymbo, gallwch eu ffonio o ddydd Llun, 2 Tachwedd ymlaen ar 01978 801463. Peidiwch â cheisio eu ffonio rhwng 24 Hydref a 1 Tachwedd, gan na fydd y rhifau ffôn ar agor.

Bydd y siop ailddefnyddio yng nghanolfan ailgylchu Bryn Lane ar gau yn ystod cyfnod atal byr, felly cadwch unrhyw gyfraniadau sydd gennych tan fydd yn ailagor.

Beth ddylech ei wneud tra bydd y safleoedd ar gau

Tra bo’r safleoedd ar gau, rydym yn gofyn i chi:

  • I geisio lleihau’r gwastraff yr ydych yn ei greu – peidiwch â chlirio eich tŷ, neu wneud unrhyw beth arall sy’n achosi sbwriel ychwanegol (e.e. prosiectau DIY penodol ayyb). Rydym yn deall nad yw’n hawdd, ond ceisiwch beidio â chreu rhagor o wastraff.
  • Rhowch unrhyw wastraff garddio yn eich bin gwyrdd fel yr arfer (os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casgliadau gwastraff gardd) , a chadwch unrhyw wastraff garddio ychwanegol yn eich gardd am y tro. Er enghraifft, os ydych wedi bod yn tocio eich llwyni, efallai bydd rhaid i chi roi’r toriadau mewn pentwr am y tro.
  • Cadwch unrhyw eitemau eraill a fyddech fel arfer yn mynd i’r ganolfan ailgylchu leol (hen ddodrefni, pren, nwyddau trydanol ayyb) gartref am y tro.

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Halloween Mwynhewch Galan Gaeaf Adref – Parchu, gwarchod a mwynhau
Erthygl nesaf Improvement Notice Cyflwyno dau Hysbysiad Gwella Eiddo arall

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle Mawrth 13, 2026
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall Mawrth 12, 2026
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall Mawrth 12, 2026
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English