Rydym yn atgoffa pobl y bydd casgliadau gwastraff gardd yn fisol dros gyfnod y gaeaf, sef Rhagfyr, Ionawr a Chwefror.
Dechreuwyd lleihau nifer y casgliadau gwastraff gardd yn ystod y misoedd hyn y llynedd gan fod y galw amdanynt yn gostwng yn sylweddol. Mae hyn yn golygu y bydd rhagor o aelodau staff yn rhydd i’n helpu ni i ymdrin â phroblemau a gaiff eu hachosi gan y gaeaf, fel llwybrau graeanu neu waith cynnal a chadw cyffredinol.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Ddim yn siŵr pryd i roi eich biniau allan?
Gallwch gadw llygad ar bryd i roi eich biniau gwastraff gardd allan yn ystod misoedd y gaeaf drwy gofrestru ar gyfer rhybuddion Fy Niweddariadau. Byddwch yn derbyn rhybudd dros e-bost ddiwrnod cyn y casgliad i’ch atgoffa chi. Os ydych eisoes yn derbyn rhybuddion Fy Niweddariadau, nid oes arnoch chi angen newid dim byd.
Gallwch hefyd weld gwybodaeth ynghylch eich casgliadau bin ar Fy Nghyfrif. Mae cofrestru yn syml iawn, ac oll sydd arnoch chi angen ei wneud yw gwasgu Gwasanaethau > Gwastraff ac Ailgylchu > Gwirio’ch diwrnod bin.
Bydd rhai newidiadau i ddyddiadau eich casgliadau bin/ailgylchu dros y Nadolig, gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf ar Fy Nghyfrif neu drwy rybuddion MyUpdate, ond byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch y newidiadau hyn ar ein blog newyddion yn ystod yr wythnosau sydd i ddod hefyd.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN