Neges gan Trafnidiaeth Cymru:
Mae’n bleser gan Trafnidiaeth Cymru gadarnhau bod bron pob deiliad cerdyn bws rheolaidd wedi cael ei gerdyn newydd ers i TrC fod yng ngofal y gwaith o ailgyhoeddi tocynnau bws ar gyfer pobl dros 60 oed a phobl anabl ers mis Medi.
Mae’r cyfnod gras bellach wedi dod i ben ac o 1 Mawrth 2020 dim ond cardiau newydd a dderbynnir er mwyn teithio ar fysus ar draws Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r holl weithredwyr bysiau i gefnogi’r lleiafrif bach o deithwyr a all gyflwyno eu hen gerdyn ar gyfer teithio ac er mwyn eu hannog i wneud cais am eu cerdyn newydd cyn gynted â phosib.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi anfon dros 600,000 o’r cardiau newydd. Caiff pob cerdyn ei brosesu cyn gynted â phosib a byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol ag ymgeiswyr os oes angen rhagor o wybodaeth i brosesu eu ceisiadau. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i brosesu ceisiadau cymhleth.
Mae’r cardiau bws newydd wedi’u cynllunio i weithio gyda theithio aml-foddol yn y dyfodol ac mae’r rhaglen adnewyddu yn garreg filltir bwysig i wireddu gweledigaeth Trafnidiaeth Cymru o system drafnidiaeth gwbl integredig y gall Cymru ymfalchïo ynddi.
Os nad ydych wedi cael eich pàs bws newydd eto, gwnewch gais cyn gynted â phosibl yn www.trc.cymru/cerdynteithio neu ymwelwch â’ch cyngor lleol.
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN