Fe ddylai pob disgybl fod nôl yn yr ysgol yn llawn amser erbyn hyn ac yn dilyn y canllawiau i’w cadw’n ddiogel.
Mae hyn yn newyddion da i bobl ifanc a’u teuluoedd sydd yn gallu dychwelyd i drefn fwy arferol ar ôl dyddiau cynnar brawychus Covid-19 pan oedd y cyfraddau trosglwyddo a marwolaethau yn llawer uwch nag ydynt ar hyn o bryd.
Ond fe all hyn hefyd rhoi rhyw deimlad i ni fod Covid-19 yn lleihau ac y bydd wedi diflannu’n fuan, felly mae hi’n amser da i atgoffa pawb fod y canllawiau y gwnaethom eu cyhoeddi ychydig wythnosau yn ôl dal i fod yn hanfodol bwysig er mwyn sicrhau bod tymor mis Medi yn brofiad diogel a chadarnhaol i bawb a bod y niferoedd sy’n cael eu heintio gyda Covid-19 yn Wrecsam yn parhau’n isel.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Gall pawb chwarae ei ran
Pethau y gall rhieni a gofalwyr eu gwneud i helpu…
- Dilynwch unrhyw gyngor y mae’ch ysgol yn ei roi.
- Byddwch yn amyneddgar – dydyn ni erioed wedi bod mewn sefyllfa fel hyn o’r blaen, ac efallai y bydd eich ysgol angen addasu rhywfaint wrth i’r amser fynd yn ei flaen.
- Atgoffwch eich plentyn i orchuddio eu ceg pan fyddant yn tisian – lle bynnag maen nhw. Ei ddal o, ei roi yn y bin, a’i ladd.
- Atgoffwch eich plentyn i olchi eu dwylo’n rheolaidd – yn cynnwys cyn ac ar ôl iddynt ddefnyddio cludiant ysgol neu gludiant cyhoeddus, a phryd bynnag y mae staff yr ysgol yn gofyn iddynt.
- Os ydych chi’n gollwng ac yn casglu eich plant, peidiwch ag ymgynnull wrth giatiau’r ysgol. Cadwch o leiaf ddwy fetr i ffwrdd o rieni eraill (y tu allan i’ch aelwyd estynedig), dilynwch gyfarwyddiadau gan eich ysgol, a pheidiwch ag aros o gwmpas yn hirach nag sydd ei angen.
- Peidiwch ag anfon eich plentyn i’r ysgol os oes ganddyn nhw – neu unrhyw un yn ei haelwyd estynedig – symptomau.
- Peidiwch ag anfon eich plentyn i’r ysgol os ydyn nhw – neu unrhyw un yn eu haelwyd estynedig – wedi cael cyngor i gael prawf Covid-19 (er enghraifft, gan swyddog olrhain cysylltiadau).
- Sicrhewch fod gan eich plentyn orchudd wyneb i’w ddefnyddio mewn ardaloedd cymunedol pan fyddant yn yr ysgol.
- Gwiriwch beth yw’r trefniadau cludiant i’r ysgol
- Gwiriwch beth yw’r newyddion diweddaraf am brydau ysgol yma
Pam ein bod ni’n gweld achosion o Covid-19 yn ein hysgolion?
Wrth i rai o gyfyngiadau llym y cyfnod clo gael eu llacio, mae’n naturiol ein bod wedi teimlo’n fwy diogel rhag y feirws, ac mae rhai pobl wedi rhoi’r gorau i gymryd yr holl ragofalon sy’n angenrheidiol i gadw ein cymunedau’n ddiogel.
Er enghraifft, mae’n ymddangos fod rhai wedi anghofio am gadw pellter cymdeithasol, ac nid yw pawb yn talu sylw i hylendid dwylo. Efallai fod rhai pobl yn rhoi lifft i bobl…i’r gwaith, i’r siop, i’r ysgol neu goleg. Ond mae dilyn y rheolau yn cynnwys cadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo a pheidio â rhannu car – yn hanfodol i atal lledaeniad Covid-19.
Ni ddylai fod yn syndod ein bod wedi gweld rhywfaint o brofion positif yn ein cymunedau, ond gellir lleihau’r rhain os ddilynwn ni’r canllawiau cywir.
Mae’n hanfodol fod pawb ohonom yn gwneud hyn er mwyn cadw ein hunain, ein teuluoedd, ein ffrindiau a’n cymunedau yn ddiogel.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn – Aelod Arweiniol dros Addysg: “Mae ysgolion wedi gweithio’n galed iawn i groesawu eu disgyblion a rŵan yw’r amser i rieni, disgyblion a staff ddilyn y canllawiau er mwyn sicrhau cyn lleied o ymyrraeth â phosibl i drefn yr ysol ac i atal plant rhag gorfod ynysu’n gymdeithasol neu – hyd yn oed yn waeth – lledaenu’r feirws i aelodau diamddiffyn o deuluoedd, ffrindiau a’r gymuned ehangach”.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae hi’n amser tyngedfennol i bawb ohonom. Mae Covid-19 dal i fod yn ein cymunedau ac mae’n parhau i fod yn fygythiad enfawr i’r rhyddid newydd rydym ni wedi ei gael yn ddiweddar. Mae’r cyfnod clo yng Nghaerffili yn ein hatgoffa mai arnom ni y mae’r cyfrifoldeb i gadw’r rhyddid yna ac os bydd pawb yn dilyn y canllawiau, gallwn chwarae ein rhan i gadw ein cymunedau yn ddiogel.”
YMGEISIWCH RŴAN