Negeseuon allweddol
• Yr hyn fydd angen i chi wneud yn ystod y cyfnod clo
• Beth fydd yn cau yn Wrecsam?
• Beth fydd yn aros ar agor yn Wrecsam?
• Cofio o gartref ar Ddydd Sul y Cofio
• Taliadau Prydau Ysgol am Ddim yn ystod hanner tymor
• Cadarnhad o ganolfan profi am chwe mis
• Ystadegau Covid-19 ar gyfer eich ardal leol chi
• Cefnogaeth i bobl ddiamddiffyn
Ddydd Llun, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cynnal cyfnod clo bryd i fynd i’r afael â lledaeniad y coronafeirws.
Bydd y cyfyngiadau yn dod i rym ar draws Cymru o 6pm dydd Gwener ac yn dod i ben yn oriau mân ddydd Llun, 9 Tachwedd.
Felly beth sydd angen i chi wneud, a beth yn union fydd yn newid yn Wrecsam?
Beth sydd angen i chi ei wneud?
Mae’r neges yn syml. Aros gartref.
Mae hyn yn golygu:
• Dylech weithio o gartref pan fo’n bosib. Yr unig eithriadau i hyn fydd gweithwyr allweddol a swyddi lle nad yw hyn yn bosibl.
• Gadewch eich cartref i ymarfer corff, am resymau hanfodol megis siopa neu nôl meddyginiaeth yn unig.
• Osgowch ymgasglu gyda phobl nad ydych yn byw gyda nhw – dan do neu yn yr awyr agored. Er, os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu’n riant sengl gallwch gysylltu ag un aelwyd arall am gefnogaeth.
Beth fydd yn cau yn Wrecsam?
Bydd y cyfleusterau canlynol yn cau yn ystod y cyfnod clo:
• Busnesau manwerthu nad yw’n hanfodol, lletygarwch a thwristiaeth.
• Canolfannau hamdden, gan gynnwys Byd Dŵr Wrecsam a lleoliadau Hamdden Freedom eraill. Bydd lleoliadau tennis a golff yn cau hefyd.
• Pob llyfrgell (gan gynnwys gwasanaethau ‘archebu a chasglu’).
• Pob canolfan gymunedol (er bydd rhai busnesau a mannau bwyd i fynd yn parhau i fod ar agor yn rhai o’n canolfannau adnoddau cymunedol).
• Ein tair canolfan ailgylchu yn Bryn Lane, Brymbo a Phlas Madog.
• Maes parcio ac adeilad Tŷ Pawb.
• Marchnad ddydd Llun ar Sgwâr y Frenhines.
• Y Farchnad Gyffredinol.
• Mannau addoli – ac eithrio ar gyfer angladdau, priodasau a seremonïau partneriaeth sifil.
Bydd gwasanaethau’r cyngor yn canolbwyntio ar wasanaethau hanfodol (megis cynnal a chadw priffyrdd). Bydd gwasanaethau eraill yn cael eu gohirio dros dro (e.e. mynd i’r afael â cheisiadau cynllunio) am bythefnos.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Beth fydd yn aros ar agor yn Wrecsam?
Bydd y pethau canlynol yn aros ar agor:
• Parciau, parciau gwledig, mynwentydd a meysydd chwarae.
• Darpariaeth gofal plant.
• Bydd eich biniau a’ch ailgylchu’n cael ei gasglu fel arfer.
• Bydd y swyddfa gofrestru a Neuadd y Dref yn parhau i fod ar agor am briodasau a seremonïau partneriaeth sifil, yn ogystal â chofrestriadau genedigaethau a marwolaethau.
• Byddwn yn parhau i gynnal atgyweiriadau brys i denantiaid tai’r cyngor.
• Bydd ysgolion cynradd Wrecsam yn ailagor fel arfer ar ôl gwyliau’r hanner tymor.
• Bydd ysgolion uwchradd Wrecsam yn ailagor ar ôl y gwyliau ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8 ac i ddisgyblion sy’n sefyll arholiadau. Bydd blynyddoedd 9, 10, 11, 12 ac 13 yn aros gartref ac yn dysgu o bell.
• Bydd Tŷ Pawb yn aros ar agor i fasnachwyr sy’n darparu gwasanaethau bwyd i fynd.
• Bydd Marchnad y Cigydd yn aros ar agor ar gyfer masnachwyr bwyd.
Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb am chwarae eu rhan yn ystod y cyfnod clo hwn.
Drwy ddod ynghyd unwaith eto, a gwneud ymdrech fawr arall yn Wrecsam ac ar draws Cymru, gallwn achub bywydau a gwarchod y GIG… yn union fel wnaethon ni dros yr haf.
Gwybodaeth bwysig arall
Dydd Sul y Cofio – cofiwch o gartref eleni os gwelwch yn dda
Rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn 2 funud o dawelwch o’ch stepen drws am 11am ddydd Sul, 8 Tachwedd, gan wylio’r coffa ar-lein neu ar y teledu.
Taliadau Prydau Ysgol am Ddim yn ystod hanner tymor
Os yw eich plant yn gymwys am brydau ysgol am ddim ac rydych wedi derbyn taliadau uniongyrchol gennym ni yn y gorffennol, byddwn yn gwneud taliadau uniongyrchol i’ch cyfrif banc ar gyfer cyfnod gwyliau’r hanner tymor.
Bydd y taliad cyntaf yn cael ei wneud ddydd Llun (26 Hydref), a bydd hyn yn cynnwys wythnos gyntaf y gwyliau.
Os yw eich plant gartref am ail wythnos (blynyddoedd 9 10 ac 11 yr ysgol uwchradd) yna byddwn yn gwneud ail daliad yr wythnos ganlynol.
Yn ogystal â hynny, os oes rhaid i’ch plentyn hunan-ynysu am 10 diwrnod unrhyw bryd, peidiwch â phoeni… byddwn yn gwneud taliad i’ch cyfrif banc am y cyfnod hwnnw.
Bydd yn helpu i chi fwydo eich plant pan maent yn gorfod aros gartref.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen cymorth, cysylltwch â ni.
Cadarnhad o ganolfan profi am chwe mis
Bydd y ganolfan brofi yn y Neuadd Goffa yma am chwe mis o leiaf… gan ddarparu profi lleol, cyfleus hyd at y gwanwyn flwyddyn nesaf.
Mae hyn yn ganlyniad i ymdrech fawr gan dimau’r cyngor, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, GIG Cymru, Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Y DU, y sector gwirfoddol a phartneriaid eraill.
Bydd angen apwyntiad arnoch cyn mynd i’r ganolfan, ac mae gwefan Llywodraeth Cymru yn dweud wrthoch chi sut i wneud cais.
Gallwch wneud cais drwy ddefnyddio ap Covid-19 y GIG ar eich ffôn hefyd.
Pan rydych yn aros am brawf neu eich canlyniadau, dilynwch y canllawiau hunan-ynysu ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cofiwch… ewch i gael prawf os ydych chi’n meddwl fod gennych symptomau’n unig.
Mae’r ganolfan brofi yn y Neuadd Goffa yn un ‘gyrru i’ nid ‘gyrru drwodd’. Felly bydd gofyn i chi dalu a pharcio fel arfer pan rydych yn mynd am brawf os yw hynny cyn 11am (mae parcio am ddim mewn meysydd pacio canol tref a reolir gan y cyngor ar ôl 11am).
Gallwch dalu gan ddefnyddio eich ap Just Park…
Ystadegau Covid-19 ar gyfer eich ardal leol chi
Gallwch nawr ganfod ystadegau Covid-19 ar gyfer eich ardal leol chi.
Mae dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn crynhoi’r ffigyrau cyffredinol ar gyfer Wrecsam i ardaloedd llai… er enghraifft, Acton, Maesydre, Gresffordd, Marford a’r Orsedd, Rhiwabon a Marchwiail.
Mae’r data’n dangos nad yw’r coronafeirws wedi’i gyfyngu i bocedi bach yn Wrecsam… mae’n bodoli ar draws y fwrdeistref sirol.
Felly mae angen i bawb gydweithio i reoli’r feirws yn ein cymunedau.
Edrychwch ar yr ystadegau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cliciwch ar y tab sy’n dweud ‘Cases by MSOA’ a defnyddiwch y gwymplen ‘Local Authority’ ar y dde i ddewis Wrecsam.
Cefnogaeth i bobl ddiamddiffyn
Cyngor Llywodraeth Cymru yw nad oes angen i bobl oedd yn cael eu gwarchod gymryd unrhyw ragofalon ychwanegol.
Fodd bynnag, os ydych chi’n cael hi’n anodd ac angen cymorth wrth gael bwyd, presgripsiynau a chefnogaeth gofal/cymdeithasol, cysylltwch â ni:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY
Ffôn 01978 292066
www.wrecsam.gov.uk
Byddwn yn rhoi manylion cyswllt ein partneriaid sector gwirfoddol Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam i chi, neu ein tîm Gofal Cymdeithasol, yn dibynnu ar y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
Un peth cadarnhaol sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil argyfwng Covid-19 ydi’r modd y mae pobl yn cadw llygad ar ei gilydd. Serch hynny, mae yna bobl sydd heb berthnasoedd na ffrindiau gerllaw, heb neb amlwg i ofyn a ydynt yn iawn.
Felly rydym yn gofyn i aelwydydd ar draws Wrecsam feddwl am eu cymdogion yn ystod y cyfnod clo hwn o bythefnos – yn enwedig yr henoed, neu’r rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain.
Meddyliwch a ydych wedi eu gweld neu eu clywed yn ddiweddar, ac os ydych chi’n poeni, ewch i wirio a ydynt yn iawn.
Ewch i roi cnoc ar y drws, neu postiwch nodyn bach drwy’r blwch postio….ond cofiwch gadw at reolau cadw pellter cymdeithasol a chadwch o leiaf ddau fetr i ffwrdd.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG