Rydym ni’n parhau i fod mewn lle da. Mae lefelau’r feirws yn isel ac mae bywyd yn teimlo ychydig yn fwy ‘normal’ ar hyn o bryd.
Ond yr wythnos hon, rydym wedi gweld cynnydd bach yn nifer achosion y Coronafeirws yn Wrecsam, gyda 22.1 achos fesul 100,000 o bobl, o gymharu ag 11.8 yr wythnos ddiwethaf. Rydym ni hefyd wedi mynd i fyny o’r degfed safle yng Nghymru i’r trydydd.
Mae’r niferoedd yn hynod o isel, ond mae’n ein hatgoffa sut mae pethau’n gallu mynd o chwith…yn sydyn iawn.
Felly mae cadw at y pethau sylfaenol – pellter cymdeithasol, awyr iach, gwisgo mwgwd a golchi ein dwylo – yn bwysicach nag erioed, ac am ein helpu i gadw’r niferoedd yn isel.
Wrth i fwy ohonom ni gael ein brechu pob dydd, gobeithio y gallwn ni barhau ar y trywydd cywir i gael haf da.
Mwynhewch ŵyl y banc, ond cofiwch y pethau sylfaenol – dwylo, wyneb, pellter, awyr iach.
Cadwch yn ddiogel.
Rhannu ceir
Yn gynharach yr wythnos hon, rhoddwyd cyngor newydd i weithwyr ar ôl i glwstwr o achosion gael eu cysylltu â rhannu ceir.
Mae canllawiau’r Llywodraeth yn dweud y dylid osgoi rhannu ceir. Mae eistedd mewn lle cyfyng gyda rhywun o aelwyd arall yn syniad drwg, a gallech ddal neu ledaenu’r feirws yn hawdd.
Efallai y bydd yn rhaid i chi hunanynysu, a gallech fod yn sâl iawn.
Felly, ceisiwch ei osgoi yn gyfan gwbl. Os na allwch chi weithio gartref, ceisiwch yrru i’r gwaith ar eich pen eich hun – neu gerdded neu feicio a mwynhau manteision awyr iach ac ymarfer corff.
Os oes rhaid i chi rannu ceir, dyma rai awgrymiadau:
• Cadwch ffenestri’r car ar agor.
• Gwisgwch fwgwd.
• Ceisiwch beidio â chyffwrdd pethau mae eraill yn eu trin – cadwch handlenni drysau a’r llyw’n lân.
• Os ydych chi’n dod o fewn dwy fetr i’r naill a’r llall, ceisiwch wneud hynny am gyn lleied â phosib’ o amser, osgowch gyswllt a cheisio wynebu oddi wrth eich gilydd.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Pleidleisio’n ddiogel ddydd Iau, 6 Mai
Yr wythnos nesaf, bydd etholiadau’r Senedd a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yn cael eu cynnal.
Mae llawer o waith wedi’i wneud i sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio mor ddiogel â phosib’ ar 6 Mai, ond gallwch helpu trwy ddilyn ychydig o gamau syml wrth fynd i bleidleisio:
• Gwisgo gorchudd wyneb.
• Dewch â’ch beiro neu’ch pensil eich hun.
• Glanhewch eich dwylo wrth ddod i mewn ac wrth adael yr orsaf bleidleisio.
• Cadwch bellter diogel oddi wrth bobl eraill.
Peidiwch â mynd i’r orsaf bleidleisio os oes gennych chi unrhyw symptomau Covid, neu os ydych wedi cael gwybod bod angen i chi hunanynysu.
Os ydych yn datblygu symptomau neu os oes rhaid i chi hunanynysu funud olaf, mae gennych chi tan 5pm ar y diwrnod pleidleisio i wneud cais am bleidlais trwy ddirprwy oherwydd argyfwng. Mae hyn yn caniatáu i chi enwebu rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan.
Am wybodaeth ynglŷn â gwneud cais am bleidlais trwy ddirprwy oherwydd argyfwng, cysylltwch â’n tîm cofrestru etholiadol ar 01978 292020.
Dyddiadau a newidiadau allweddol
Dyma grynodeb sydyn o’r prif newidiadau yng Nghymru dros y dyddiau nesaf.
Dydd Llun, 3 Mai
• Bydd gweithgareddau dan do gyda goruchwyliaeth i blant (e.e. grwpiau a chlybiau), a gweithgareddau dan do wedi’u trefnu i hyd at 15 o oedolion (fel dosbarthiadau ymarfer corff), yn cael eu caniatáu.
• Bydd canolfannau cymunedol yn gallu ailagor.
• Bydd aelwydydd estynedig yn cael eu caniatáu eto, a fydd yn galluogi i ddwy aelwyd gyfarfod a dod i gyswllt dan do.
• Bydd campfeydd, canolfannau hamdden, cyfleusterau ffitrwydd, sbas a phyllau nofio yn gallu ailagor.
Yn Wrecsam, bydd canolfannau hamdden Byd Dŵr a’r Waun yn agor ar 3 Mai o 9am tan 4pm.
Bydd holl gyfleusterau eraill Freedom Leisure yn y sir yn agor ar 4 Mai.
Bydd dosbarthiadau ymarfer corff i grwpiau dan do yn dechrau ar safleoedd penodol ar 3 Mai, a dosbarthiadau Dysgu Nofio ar 4 Mai.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol.
O ddydd Llun, gall campfeydd a chanolfanau hamdden ailagor, a gall gweithgareddau dan do i hyd at 15 o bobl ailddechrau.
Cewch hefyd ffurfio aelwyd estynedig gydag un cartref arall.
Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu – drwy weithio gyda'n gilydd gallwn ddiogelu Cymru. pic.twitter.com/uBPbqdodJC
— Llywodraeth Cymru (@LlywodraethCym) April 30, 2021
Y wybodaeth ddiweddaraf am frechu
Mae tua 70% o oedolion yng Ngogledd Cymru bellach wedi derbyn o leiaf un dos o’r brechlyn.
Yr wythnos hon, mae’r bwrdd iechyd yn parhau i frechu pobl 18-49 oed (Grŵp Blaenoriaeth 10), yn ogystal ag eraill oedd yn methu â derbyn eu brechiad pan oedd yn cael ei gynnig iddynt y tro cyntaf.
Apwyntiadau ail ddos
Mae’n bwysig eich bod yn cael y ddau ddos o’r brechlyn er mwyn eich amddiffyn.
Ar hyn o bryd, mae bwlch o un ar ddeg wythnos rhwng y dos cyntaf a’r ail ddos, felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar.
Fodd bynnag, os ydych chi wedi bod yn disgwyl mwy nag un ar ddeg wythnos am eich ail ddos, dylech gysylltu ag:
• Eich meddyg teulu os cawsoch chi eich dos cyntaf mewn meddygfa.
• Y Ganolfan Gyswllt Frechu ar 03000 840004 os cawsoch eich dos cyntaf mewn unrhyw le arall (mae llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm a dydd Sadwrn a dydd Sul, 9am tan 1 pm).
Apêl i gyflogwyr
Os ydych chi’n helpu i redeg busnes, gofynnwn i chi fod yn gefnogol i geisiadau gan staff am amser o’r gwaith i fynd i apwyntiadau brechu.
Brechu yw’r ffordd orau i ni allan o’r pandemig, a bydd hefyd yn helpu i leihau unrhyw amser mae staff o’r gwaith yn sâl.
Cwestiynau am y brechlyn?
Os ydych chi’n nerfus ynglŷn â chael eich brechu neu os oes gennych gwestiynau, ymunwch â’r bwrdd iechyd lleol am sesiwn holi ac ateb ar-lein ddydd Mercher, 5 Mai.
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal gan ddefnyddio’r ap cyfarfodydd poblogaidd, Zoom, a bydd yn cael ei chynnal rhwng 6.30pm a 7.30pm.
Ewch i’ch apwyntiad
Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu ofidiau munud olaf, gofynnwn i chi fynd i’ch apwyntiad brechu er hynny, fel y gall staff drafod y rhain gyda chi cyn i chi wneud y penderfyniad.
Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan y bwrdd iechyd lleol.
Y Coronafeirws yn eich ardal chi
Mae Sir Wrecsam yn y trydydd safle trwy Gymru ar hyn o bryd, gyda 22.1 achos fesul 100,000 o bobl dros gyfnod o 7 diwrnod.
Os ydych am weld ffigyrau eich ardal chi, ewch i ddangosfwrdd data Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chliciwch ar y tab ‘MSOA’.
Pecynnau hunan-brofi am ddim wedi’u danfon i’ch cartref
Os na allwch chi weithio gartref, gallwch archebu pecynnau hunan-brofi ‘llif unffordd’ am ddim i gael eu danfon i’ch cartref.
Cymerwch olwg ar wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Symptomau neu wedi’ch nodi fel ‘cyswllt’?
Os oes gennych chi symptomau’r coronafeirws – neu os ydych wedi’ch nodi’n ‘gyswllt’ gan y gwasanaeth Monitro, Olrhain a Diogelu – gofalwch eich bod yn hunanynysu ac yn cael prawf ‘PCR’.
Efallai mai dyma fydd y peth pwysicaf a wnewch chi byth.
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol
- Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru)
- Gwefan Llywodraeth Cymru – cwestiynau cyffredin ynglŷn â chyfyngiadau yng Nghymru ar hyn o bryd
- Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiadau rheolaidd
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF