Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn briffio Covid-19 – cyfnod atal byr o bythefnos yn golygu ‘arhoswch gartref’
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo
Wrexham's Year of Wonder
Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Adult holding a child's hand
Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Digwyddiadau Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Nodyn briffio Covid-19 – cyfnod atal byr o bythefnos yn golygu ‘arhoswch gartref’
ArallPobl a lleY cyngor

Nodyn briffio Covid-19 – cyfnod atal byr o bythefnos yn golygu ‘arhoswch gartref’

Diweddarwyd diwethaf: 2020/10/20 at 4:28 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Covid-19
RHANNU

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfnod atal byr i arafu lledaeniad y feirws.

Mae hyn yn golygu ein bod yn dychwelyd at gyfyngiadau cryfach am bythefnos, gan ddechrau o 6pm ddydd Gwener yma, 23 Hydref.

Bydd y cyfnod atal hwn yn cynnwys gwyliau’r hanner tymor a bydd yn dod i ben ddydd Llun, 9 Tachwedd.

Rydym i gyd yn gwybod bod y feirws yn lledaenu’n gyflym ym mhob rhan o Gymru – gan gynnwys Wrecsam – ac os na fyddwn ni’n gweithredu rŵan, mae siawns go iawn y bydd y GIG dan bwysau gormodol.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae hyn yn anodd iawn.

Ond os byddwn i gyd yn gweithio gyda’n gilydd, gallwn helpu i gadw Cymru a Wrecsam yn ddiogel, achub bywydau a gobeithio osgoi cyfnod clo llymach fyth yn y dyfodol.

Darllenwch gwestiynau cyffredin cyfnod atal y coronafeirws ar wefan Llywodraeth Cymru.

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Felly o 6pm nos Wener, bydd angen i bawb yng Nghymru aros gartref.

Mae hyn yn golygu y dylech:

  • Weithio gartref lle bynnag bo’n bosibl. Yr unig eithriad fydd gweithwyr allweddol a swyddi lle nad yw hyn yn bosibl.
  • Dim ond gadael eich cartref i ymarfer corff, neu at ddibenion hanfodol fel siopa neu gasglu meddyginiaeth.
  • Osgoi unrhyw ymgasglu â phobl nad ydych yn byw gyda nhw – naill ai dan do neu yn yr awyr agored. Er os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun neu os ydych chi’n rhiant sengl, gallwch uno ag un aelwyd arall i gael cefnogaeth.

Ond mae’r neges sylfaenol yn syml. Arhoswch gartref.

A chofiwch fod y cyfyngiadau lleol presennol yn dal i fod ar waith tan 6pm ddydd Gwener.

Beth fydd yn cau?

Bydd y gwasanaethau a’r cyfleusterau canlynol yn cau ar draws Cymru:

  • Pob busnes manwerthu, hamdden, lletygarwch a thwristiaeth dianghenraid.
  • Canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu.
  • Bydd mannau addoli ar gau, ar wahân i ar gyfer angladdau, priodasau a seremonïau partneriaeth sifil.

Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth i chi am beth mae hyn yn ei olygu i Wrecsam yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Beth fydd yn aros ar agor?

Bydd y pethau canlynol yn aros ar agor:

  • Parciau, mynwentydd a meysydd chwarae lle bo’n bosibl.
  • Darpariaeth gofal plant.
  • Bydd ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig yn ailagor fel arfer ar ôl hanner tymor.
  • Bydd ysgolion uwchradd yn ailagor ar ôl hanner tymor ar gyfer blwyddyn 7 ac 8, ac ar gyfer disgyblion sy’n sefyll arholiadau. Ond bydd disgyblion ym mlwyddyn 9, 10, 11, 12 ac 13 yn aros gartref a defnyddio dulliau dysgu o bell.
  • Bydd prifysgolion a cholegau yn aros ar agor. Ond bydd angen i fyfyrwyr sydd ar wythnosau darllen neu hanner tymor aros yn eu llety prifysgol.

Eto, byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth i chi yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd.

Mae wedi bod yn flwyddyn hynod o anodd mewn gymaint o ffyrdd.

Mae’r feirws wedi effeithio ar ein hiechyd, ein swyddi, a’n gallu i weld y bobl rydyn ni’n eu caru a bod gyda nhw.

Ond wrth i ni weithio gyda’n gilydd unwaith eto, a gwneud ymdrech fawr arall yn Wrecsam ac ar draws Cymru, gallwn achub bywydau a diogelu’r GIG…yn union fel wnaethon ni dros yr haf.

Ni fydd yn hawdd, ond nid oes gennym ddewis…ac os byddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd, byddwn yn dod drwyddi.

Cymerwch ofal a chadwch yn ddiogel.

Os oes angen cefnogaeth arnoch, gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar 0800 132 737 neu anfonwch neges destun at 81066.

Rhannu
Erthygl flaenorol Ele Glanach a thawelach…y cyngor yn profi wagen finiau drydan newydd
Erthygl nesaf Ein hymateb i ymgynghoriad “Lleihau’r Defnydd o Blastig Untro” (Hydref 2020) Ein hymateb i ymgynghoriad “Lleihau’r Defnydd o Blastig Untro” (Hydref 2020)

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle Awst 5, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 5, 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo Awst 5, 2025
Wrexham's Year of Wonder
Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 5, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 5, 2025
Wrexham's Year of Wonder
DigwyddiadauPobl a lle

Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam

Awst 5, 2025
Adult holding a child's hand
DigwyddiadauY cyngor

Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English