Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ein hymateb i ymgynghoriad “Lleihau’r Defnydd o Blastig Untro” (Hydref 2020)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ein hymateb i ymgynghoriad “Lleihau’r Defnydd o Blastig Untro” (Hydref 2020)
Y cyngor

Ein hymateb i ymgynghoriad “Lleihau’r Defnydd o Blastig Untro” (Hydref 2020)

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 20, 2020 9:24 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Ein hymateb i ymgynghoriad “Lleihau’r Defnydd o Blastig Untro” (Hydref 2020)
RHANNU

Ym mis Gorffennaf, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn gofyn am safbwyntiau ynghylch lleihau’r defnydd o blastig untro ac rydym bellach wedi anfon ein hymateb iddynt.

Mae’r ymateb wedi ei ymdrin fel mater busnes brys a gwnaethpwyd penderfyniad dirprwyedig gan yr Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant er mwyn sicrhau bod yr ymateb wedi cyrraedd Llywodraeth Cymru erbyn y dyddiad cau sef 22 Hydref.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Mae’r ymgynghoriad yn cynnig cyflwyno is-ddeddfwriaeth i atal busnesau rhag darparu eitemau plastig defnydd untro i ddefnyddwyr yng Nghymru, waeth os yw’r busnesau hyn yn bwriadu codi ffi ar gyfer yr eitemau hyn neu beidio.

Yr eitemau hyn yw:

  • Ffyn cotwm plastig
  • Cytleri
  • Platiau
  • Troellwyr diodydd
  • Gwellt yfed
  • Ffyn balwnau
  • Cynwysyddion bwyd wedi’u gwneud o bolystyren wedi’i ehangu
  • Cwpanau wedi eu gwneud o bolystyren wedi’i ehangu

Mae’r ymateb yn dangos ein bod o blaid y cynnig ond hefyd yn cydnabod yr effaith sylweddol y byddai’n ei gael ar ein cymunedau a’r amgylchedd ond yn ogystal mae’n nodi’r pryderon ynghylch yr effaith ar fusnesau lleol (e.e. gwneuthurwyr y nwyddau hyn) ac ar fanwerthwyr a’r sector lletygarwch sy’n defnyddio’r eitemau hyn.

Mae diwydiant a masnachwyr wedi cael eu heffeithio’n ddrwg gan pandemig y Covid-19, ac rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried yn ofalus amseru’r is-ddeddfwriaeth fel lleihau cynhyrchiad neu gynnydd yng nghostau rhedeg a allai fod yn niweidiol i rai busnesau.

Bellach mae angen digon o amser i fusnesau ddatblygu cynnyrch/ datrysiadau amgen i ddefnyddio plastig untro, ac rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru edrych ar gyllid i gefnogi busnesau ddatblygu’r cynnyrch hyn.

Darllenwch yr ymateb llawn yn

Y bwriad yw cael gwared ar ddefnyddio plastig untro

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym wedi cynyddu faint o blastig rydym yn ei ailgylchu ond ein bwriad yw cael gwared ar ddefnyddio plastig untro er mwyn darparu economi sydd ddim yn ddibynnol ar ddefnyddio adnoddau i’w wneud yn fwy cynaliadwy os ydym eisiau cyflawni dim gwastraff.

“I wneud hyn mae’n rhaid i ni roi sylw at yr hyn yr ydym yn ei ddefnyddio, beth ydym yn ei wneud gyda hyn ac yn bwysicach oll pa effaith mae hyn yn ei gael ar ein hamgylchedd. Fel yr ydym wedi gweld ar y Teledu a’r Cyfryngau, mae plastig o unrhyw fath yn broblem byd-eang, a ni allwn ni fel gwlad unigol ei ddatrys ond gallwn chwarae ein rhan i leihau’r effaith ar Wrecsam a Chymru ar y broblem

“Gobeithiwn y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gadarnhaol i ganlyniadau’r ymgynghoriad ac yn ystyried maint sylweddol y gwaith sydd angen ei wneud i atal unrhyw ganlyniadau ariannol i fasnachwyr a busnesau tebyg.”

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid-19 Nodyn briffio Covid-19 – cyfnod atal byr o bythefnos yn golygu ‘arhoswch gartref’
Erthygl nesaf Flu Ydych chi wedi cael eich pigiad ffliw eto?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English