Os nad ydych chi wedi cael eich brechiad atgyfnerthu eto, ewch cyn gynted ag sy’n bosibl.
Nid yw dau ddos yn unig o frechlyn Covid-19 yn cynnig amddiffyniad cryf yn erbyn haint â symptomau gan Omicron.
Felly ewch am eich brechiad atgyfnerthu er mwyn creu eich gwrthgyrff.
Mae’r bwrdd iechyd GIG lleol yn anfon negeseuon testun at bobl i’w hannog i fynychu clinigau galw heibio cyn gynted ag sy’n bosibl.
Neges destun ag addewid torcalonnus i gael pigiad Covid oddi wrth dad oedd heb ei frechu a fu farw ar beiriant anadlu.
Darllenwch apêl y teulu sydd ‘wedi’u dinistrio’ yma: https://t.co/slmrEkEKzn pic.twitter.com/UCNpgSkmLL
— Betsi Cadwaladr (@BetsiCadwaladr) January 7, 2022
Y bwlch rhwng brechlynnau wedi’i leihau ar gyfer pobl ifanc 12-17 oed
Mae’r bwlch lleiaf rhwng y brechlyn cyntaf a’r ail frechlyn ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 a 17 oed wedi’i leihau o 12 wythnos i wyth wythnos.
Os ydych chi yn y categori oedran hwn a bod wyth wythnos ers eich brechlyn cyntaf, peidiwch ag aros am wahoddiad i gael eich ail frechlyn.
Edrychwch pa glinigau galw heibio lleol sy’n cynnig brechiadau ar gyfer eich grŵp oedran, a threfnwch cyn gynted ag sy’n bosibl.
Cyhoeddi’r cynllun i lacio’r cyfyngiadau lefel rhybudd dau
Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi cynllun heddiw ar gyfer mynd â Chymru yn ôl i fesurau lefel rhybudd sero.
Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi cynllun heddiw ar gyfer mynd â Chymru yn ôl i fesurau lefel rhybudd sero.
Cefnogwch eich ysgol
Cefnogwch eich ysgol trwy ddilyn canllawiau presennol Llywodraeth Cymru.
Os yw eich plentyn yn yr ysgol uwchradd, anogwch nhw i ddefnyddio profion llif unffordd deirgwaith yr wythnos, dilyn rheolau’r ysgol o ran gorchuddion wyneb a golchi neu ddiheintio eu dwylo’n rheolaidd.
Ac os ydych chi neu eich plentyn yn gymwys i gael brechiad ac nad ydych wedi manteisio ar y cynnig eto, ewch am eich brechiadau cyn gynted ag sy’n bosibl.
Newidiadau i drefniadau profi ac ynysu
Mae’n debyg eich bod chi’n ymwybodol o newidiadau diweddar i drefniadau profi ac ynysu yng Nghymru, ond i’ch atgoffa…
- Os ydych chi wedi cael prawf llif unffordd positif ond nad oes gennych symptomau, ni chewch eich cynghori i gael prawf PCR dilynol bellach (oni bai eich bod mewn grŵp clinigol ddiamddiffyn).
- Gofynnir i chi hunan-ynysu am saith diwrnod. Ar ddiwrnod chwech, dylech gymryd prawf llif unffordd, a phrawf arall 24 awr yn ddiweddarach. Os yw’r ddau brawf yn negyddol, mae’n annhebygol eich bod yn heintus.
- Os cewch eich nodi fel cyswllt i unigolyn sydd wedi cael prawf positif, dylech gymryd prawf llif unffordd bod dydd am saith diwrnod (profion cyswllt dyddiol).
Bydd uned brofi dan do ym Mhlas Madog yn darparu profion PCR o ddydd Llun (Ionawr 17)
Ar gael i unrhyw breswylwyr lleol sydd â symptomau.
Bydd uned brofi dan do yn cael ei sefydlu yng Nghanolfan Hamdden Plas Madog er mwyn ei gwneud yn haws i bobl leol gael prawf Covid-19.
Bydd y cyfleuster profi’n cynnig profion PCR i’w harchebu ymlaen llaw rhwng 17 Ionawr a 30 Ionawr yn y neuadd chwaraeon rhwng 9:30am a 4:30pm.
Mae’n rhaid i chi archebu eich prawf ar-lein ymlaen llaw (peidiwch â ffonio’r ganolfan hamdden os gwelwch yn dda).
Pan fyddwch yn cyrraedd, defnyddiwch y fynedfa i’r neuadd chwaraeon (peidiwch â defnyddio’r brif fynedfa / derbynfa).
Cofiwch … os byddwch yn profi’n bositif ac yn hunan-ynysu, byddwch yn helpu i rwystro’r feirws rhag lledaenu.
Caiff y gwaith yn yr uned brofi ei gydlynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Wrecsam, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ac Ymddiriedolaeth Gymunedol Sblash.
Sut i gael citiau prawf ychwanegol
Os ydych angen mwy o gitiau prawf llif unffordd, gallwch eu harchebu ar-lein, neu eu casglu o’r pwyntiau casglu lleol.