Dylech ymddwyn fel pe bai Covid-19 arnoch
Mae pethau wedi gwella rhywfaint, ond yn Wrecsam y mae’r cyfraddau uchaf o’r coronafeirws yng Nghymru gyfan (660.5 achos am bob 100k o bobl ar sail saith diwrnod treigl).
Yr amrywiolyn newydd sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o achosion newydd yng ngogledd Cymru erbyn hyn ond, diolch byth, nid oes achosion o amrywiolion De Affrica a Brasil.
Mae pobl o bob oedran yn dal i fynd yn sâl, mae rhai’n marw, ac mae’n gwasanaethau iechyd lleol yn dal o dan bwysau aruthrol.
Mae’r neges yn dal yn syml:
Dylech ymddwyn fel pe bai Covid-19 arnoch chi – ac ar bawb yr ydych yn dod i gysylltiad â nhw.
Byddwch yn hynod ofalus, byddwch yn hynod ystyriol, a pheidiwch â chymysgu â phobl o aelwydydd eraill – y tu mewn na’r tu allan.
Apwyntiadau brechu – peidiwch â ffonio’ch meddyg teulu
Pan ddaw eich tro chi i gael y brechlyn, fe gysylltir â chi i drefnu apwyntiad.
Peidiwch â chysylltu â’ch meddyg teulu neu’ch ysbyty lleol i holi am apwyntiad cyn hynny. Byddwch yn cael gwybod pan ddaw eich tro chi.
Mae ein gwasanaethau iechyd eisoes o dan bwysau aruthrol, ac mae’n rhaid inni roi amser a lle iddynt ganolbwyntio ar gyflwyno’r rhaglen frechu anferth hon.
Mae ein Rhaglen Frechu COVID-19 yn awr yn mynd rhagddi. Mae pobl yn cael eu gwahodd i ganolfannau brechu a meddygfeydd i gael eu brechlyn yn nhrefn y grwpiau blaenoriaeth a ddynodwyd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio ???? https://t.co/R0YIeq7mMx pic.twitter.com/GSemOJgF1W
— Betsi Cadwaladr (@BetsiCadwaladr) January 21, 2021
Cofiwch fod Llywodraeth Cymru’n bwriadu brechu:
• Trigolion a staff cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol, pobl dros 70 oed, a phobl sydd â chyflyrau iechyd isorweddol, erbyn canol mis Chwefror.
• Pobl dros 50 oed erbyn y gwanwyn.
• Pob oedolyn arall erbyn yr hydref.
Peidiwch â mynd dros ben llestri ar ôl ichi gael eich brechu
Ar ôl ichi gael eich brechu, bydd angen ichi fod yn hynod ofalus o hyd, a bydd raid ichi gadw at yr holl gyfyngiadau a’r canllawiau sydd mewn grym yng Nghymru.
Ni fyddwch wedi’ch diogelu yn syth (mae’r brechlyn yn cymryd amser i weithio) ac fe allai fod yn bosibl ichi ddal a lledaenu’r feirws o hyd.
Felly peidiwch â mynd dros ben llestri a meddwl y gallwch anwybyddu’r holl gyngor a’r cyfyngiadau diogelwch unwaith ichi gael eich brechu.
Daliwch ati i fod yn hynod ofalus, a chadwch at y rheolau – hyd yn oed ar ôl ichi gael eich brechu.
Cyflwyno’r brechlyn yn Wrecsam
Mae staff a thrigolion cartrefi gofal yn Wrecsam yn dal i gael eu brechu. Hyd yn hyn, mae dros 67% o drigolion a 46% o staff wedi cael eu brechu.
Ddydd Mawrth, Ionawr 26, bydd canolfan frechu’n dechrau gweithredu yng Nghanolfan Catrin Finch.
Bydd hyn yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflwyno’r rhaglen frechu yn Wrecsam, ar y cyd â meddygfeydd lleol.
Gallwch ddarllen mwy am gyflwyno’r rhaglen frechu ar wefan y bwrdd iechyd lleol.
Rhifau ein stori Covid
Mae’r fideo isod yn dangos y nifer o achosion coronafeirws yn Wrecsam ers dechrau’r pandemig.
Cymerwch funud i’w gwylio…
Achosion Covid ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ers dechrau'r pandemig pic.twitter.com/laLlgxfslS
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) January 22, 2021
Lefelau coronafeirws yn eich ardal chi
Mae’r niferoedd yn y rhan fwyaf o ardaloedd Wrecsam wedi gwella ers dechrau’r wythnos hon, ond mae’r ffigurau’n dal yn uchel iawn.
Yr ardaloedd lle mae mwy na 700 o achosion am bob 100k o bobl yw:
• Gorllewin Gwersyllt a Brynhyfryd, 1,198 achos
• Y Waun a Dyffryn Ceiriog, 972 achos
• Parc Caia, 896 achos
• Gorllewin Wrecsam, 888 achos
• Hermitage a Whitegate, 811 achos
• Gogledd y dref, y Brifysgol a Rhosddu, 743 achos
• Acton a Maesydre, 732 achos
Yn Wrecsam, mae’r feirws yn dal i wneud ei ffordd i gartrefi pobl ac yn lledaenu rhwng aelodau o deuluoedd, yn bennaf.
Mae hefyd yn bresennol mewn rhai cartrefi gofal, gweithleoedd, yr ysbyty a’r carchar.
Ysgolion a dysgu o bell
Fel yng ngweddill Cymru, mae ysgolion yn Wrecsam yn dal i gynnig darpariaeth dysgu o bell i’w disgyblion.
Os na fydd lefelau’r feirws yn gostwng yn sylweddol, bydd hyn yn parhau tan hanner tymor Chwefror.
Dyma sy’n rhaid inni i gyd ei wneud
Dylech ymddwyn fel pe bai Covid-19 arnoch chi – ac ar bawb yr ydych yn dod i gysylltiad â nhw.
Daliwch ati i gadw at y cyfyngiadau sydd mewn grym yng Nghymru ar hyn o bryd a:
• Pheidiwch â chymysgu â phobl o aelwydydd eraill (y tu mewn na’r tu allan).
• Peidiwch â theithio heblaw am at ddibenion hanfodol, megis gwaith, rhesymau iechyd neu ddyletswyddau gofalu.
Arhoswch yn gryf a daliwch ati.
Diolch
Mae delio â glaw llifeiriol a llifogydd yn ddigon anodd ar y gorau, ond yn anos fyth yn ystod pandemig.
Felly diolch o galon i bawb — yn cynnwys staff y cyngor, y gwasanaethau brys, ein partneriaid mewn asiantaethau eraill, a’n cymunedau – am gynorthwyo Wrecsam i oroesi cyfnod anodd.
Gallwch ddarllen mwy am Storm Christoph, a chael y wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd, drwy ddilyn Heddlu Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Wrecsam ar Twitter.
Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol
• Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – diweddariadau am y brechlyn (gogledd Cymru)
• Gwefan Llywodraeth Cymru – Cwestiynau Cyffredin am gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4
• Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiad dyddiol