Yn unol â gweddill Cymru, mae canol tref Wrecsam wedi ailagor ar gyfer siopa dianghenraid ddydd Llun.
Hefyd fe groesawodd yr ysgolion blant o bob oed yn ôl, wrth i’r cyfyngiadau barhau i lacio yn dilyn cyfnod clo’r gaeaf.
Mae hi’n mynd yn iawn hyd yma.
Os fyddwn ni’n parhau i wneud y pethau iawn – bod yn ofalus a synhwyrol – gallwn edrych ymlaen at haf gwych (os nad ydym ni, gallwn edrych ymlaen at haf digalon…gall bethau fynd un ffordd neu’r llall).
Pan ewch i siopa…
Pan ddewch i’r dref i gefnogi busnesau lleol, glynwch at reolau cadw pellter cymdeithasol, defnyddiwch ddiheintydd dwylo a gwisgwch fasg wyneb oni bai eich bod wedi cael eich eithrio.
Mae ein cefnogwyr cadw pellter cymdeithasol yn mynd o gwmpas, yn rhoi cymorth a chefnogaeth.
Ar wahân i’r maes parcio aml-lawr yn Tŷ Pawb, mae holl feysydd parcio a reolir gan y cyngor yng nghanol y dref am ddim ar ôl 11am (er bod cyfyngiadau amser yn dal i fod yn gymwys mewn meysydd parcio arhosiad byr).
Pan ewch i’r ysgol…
Os ydych yn riant, peidiwch â rhannu ceir, a pheidiwch ag aros o amgylch giatiau’r ysgol.
Os yw eich plentyn yn sâl, cadwch nhw adref a gwnewch brawf os ydych yn credu fod ganddynt symptomau’r coronafeirws (tymheredd uchel, peswch newydd, colli neu newid mewn synnwyr blasu neu arogli).
Bydd y pethau syml hyn yn helpu i gadw ein hysgolion yn ddiogel.
Ailagor llyfrgelloedd fesul cam
O ddydd Llun (Ebrill 19), byddwch yn gallu archebu ymweliad i Lyfrgell Wrecsam.
Bydd llyfrgelloedd yn parhau i ddarparu ‘gwasanaeth archebu a chasglu’, ond mae’r llacio cyfyngiadau yng Nghymru yn golygu ein bod yn barod i ailagor yr adeilad ar sail gyfyngedig.
Trwy ffonio 01978 292090 neu anfon e-bost at library@wrexham.gov.uk, gallwch archebu apwyntiad 30 munud i alw heibio a phori, benthyg a dychwelyd llyfrau.
Gallwch archebu ymweliad â Llyfrgell Wrecsam o ddydd Llun nesaf (Ebrill 19)
Dyddiadau a newidiadau allweddol
Dyma grynodeb sydyn o’r newidiadau allweddol yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf…
Dydd Llun, 26 Ebrill
• Disgwylir i dafarndai a bwytai agor gyda gwasanaeth awyr agored ailagor (bydd lletygarwch tu mewn yn parhau i fod ar gau).
• Caniateir gweithgareddau awyr agored trefnedig a derbyniadau priodas awyr agored.
Dydd Llun, 3 Mai
• Gall campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor ar gyfer hyfforddiant unigol neu un i un.
• Caniateir aelwydydd estynedig unwaith eto, gan alluogi dwy aelwyd i gwrdd â chael cyswllt tu mewn.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Y Coronafeirws yn eich ardal chi
Mae Wrecsam ar y cyfan yn seithfed yng Nghymru, gyda 17 o achosion i bob 100,000 o’r boblogaeth ar sail saith diwrnod treigl.
Os ydych am weld ffigurau eich ardal chi mewn, ewch i ddangosfwrdd data Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chliciwch ar y tab ‘MSOA’.
Citiau hunan-brofi cyflym os nad allwch weithio o gartref
Os nad allwch weithio o gartref, gallwch gymryd mantais o’r citiau hunan-brofi cyflym sy’n cael eu cyflwyno ar draws Cymru.
Mae’r citiau ar gael i’w casglu o safleoedd profi – ac mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl sydd methu gweithio o adref, i dderbyn y cynnig.
Gall cymaint ag un mewn pump o bobl fod â Covid-19 heb ddangos unrhyw symptomau – felly gall hunan-brofi rheolaidd helpu i ddarganfod os oes gennych y feirws.
Os ydych yn byw yn Wrecsam, ac os nad allwch weithio o gartref, gallwch fynd i nol y citiau o’r ganolfan brofi yn y Neuadd Goffa.
Edrychwch ar wefan y bwrdd iechyd GIG lleol i gael rhagor o wybodaeth.
Methu gweithio o gartref?
Rydym yn annog unrhyw sydd yn gorfod mynychu'r gweithle oherwydd natur ei swydd i gymryd prawf llif unffordd.
O ddydd Gwener, byddwch yn gallu casglu pecyn i hunan-brofi yn gyflym ar gyfer COVID-19 o safle prawf lleol am ddim.https://t.co/ZeWAvMVsNz pic.twitter.com/azvdT7pAXv
— Llywodraeth Cymru (@LlywodraethCym) April 14, 2021
Y wybodaeth ddiweddaraf ar frechu
Erbyn diwedd yr wythnos, bydd mwy na hanner miliwn dos o’r brechlyn wedi cael ei roi yng Ngogledd Cymru.
Mae’n garreg filltir bwysig, ac mae’r bwrdd iechyd lleol wedi mynegi ei diolchiadau i bawb ynghlwm…yn ogystal â’r cyhoedd am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.
Brechlyn i’r rhai o dan 50 oed
Ar ôl cynnig y brechlyn i bawb dros 50 oed, mae’r bwrdd iechyd bellach wedi dechrau anfon gwahoddiadau i weddill y boblogaeth oedolion yng Ngogledd Cymru.
Mae Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi argymell bod y rhai o dan 30 oed yn y DU yn cael cynnig brechlyn gwahanol i’r AstraZeneca.
Felly er mwyn sicrhau bod y grwpiau oedran iawn yn cael y brechlyn iawn, bydd gwahoddiadau ar sail cyflenwadau’r brechlyn rhwng rŵan a diwedd Gorffennaf.
Golyga hyn y gall rai pobl 18-29 oed gael cynnig y brechlyn yn gynt na rhai pobl 30 oed a hŷn.
Mynychwch eich apwyntiad brechiad
Os oes gennych unrhyw bryderon munud olaf, mynychwch eich apwyntiad fel y gall staff drafod y rhain gyda chi cyn i chi wneud penderfyniad.
Os byddwch yn derbyn gwahoddiad ar gyfer apwyntiad ond yn sicr nad ydych eisiau derbyn y brechlyn, yna dylech adael i’r GIG wybod fel y gallant ei gynnig i rywun arall.
Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan y bwrdd iechyd lleol.
Oes gennych chi symptomau neu wedi cael eich nodi fel ‘cyswllt’?
Os oes gennych chi symptomau coronafeirws – neu os ydych wedi cael eich nodi fel ‘cyswllt’ gan y gwasanaeth Tracio, Olrhain a Diogelu – sicrhewch eich bod yn hunan-ynysu ac yn cael prawf.
Gallai fod y peth pwysicaf i chi ei wneud erioed.
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol
- Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru)
- Gwefan Llywodraeth Cymru – Cwestiynau Cyffredin am y cyfyngiadau presennol yng Nghymru
- Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiadau rheolaidd
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF