Mae nodyn briffio heddiw yn fyrrach nag arfer. Arwydd bod pethau wedi gwella’n sylweddol ers dechrau’r flwyddyn.
Ond mae’n bwysig cofio – fel arfer – nad ydy’r pandemig drosodd.
Cofiwch am y pethau sylfaenol
Mae’n dal yn bwysig cadw at y pethau sylfaenol yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru – dwylo, wyneb, cadw pellter, awyr iach.
Mae wedi dod yn ail natur i lawer ohonom ni. Mae hynny’n beth da.
Helpwch i gadw eich hoff dafarn yn ddiogel ac yn agored
Mae hefyd yn bwysig fod pawb yn chwarae eu rhan i helpu i gadw tafarndai, bariau a bwytai yn ddiogel ac yn agored.
Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi ymddwyn yn gyfrifol ers i letygarwch dan do ailagor yn gynharach y mis hwn.
Ond os ydych yn rhedeg busnes lletygarwch dan do, neu os ydych yn meddwl am fynd i’r dafarn am beint, mae’n werth darllen y canllawiau hyn…
Helpwch eich hoff leoliad lletygarwch dan do i aros yn agored ac yn ddiogel
Amrywiolyn wedi’i ddarganfod yn India
Disgwylir i’r amrywiolyn sy’n achosi pryder a ganfuwyd yn India fod y prif straen yn y DU dros amser
Mae’r amrywiolyn yn ymddangos fel petai’n lledaenu’n haws, er bod tystiolaeth gynnar yn awgrymu bod brechu yn ei erbyn yn parhau’n effeithiol.
Mae achosion wedi eu nodi ar draws y DU – yn arbennig yn Bolton, Blackburn, Kirlees, Bedford, Burnley, Caerlŷr, Hounslow a Gogledd Tyneside.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno unrhyw gyfyngiadau ar deithio yn y DU, ond mae’n eich cynghori i osgoi ymweld â’r ardaloedd hyn os gallwch chi.
Mae yna fwy na 50 achos o’r amrywiolyn yng Nghymru.
Y wybodaeth ddiweddaraf am frechu
Mae wyth mewn deg o oedolion cymwys yng Ngogledd Cymru wedi derbyn dos cyntaf o’r brechlyn, tra bod bron hanner yr oedolion wedi derbyn y ddau ddos.
Mae’r bwrdd iechyd lleol yn parhau i gynnig apwyntiadau byr rybudd i rai grwpiau oedran ar sail y cyntaf i’r felin.
Mae’r rhain yn cael eu cyhoeddi ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y bwrdd iechyd.
Bydd system archebu ar-lein hefyd ar gael yn fuan – gan ganiatáu i bobl archebu apwyntiadau ar amser a dyddiad sy’n addas iddyn nhw.
Effeithiolrwydd yn erbyn amrywolion
Mae data a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn dangos bod brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca – ar ôl dau ddos – yn hynod effeithiol yn erbyn y straen a ganfuwyd yn wreiddiol yn India.
Ewch i’ch apwyntiad ail ddos ar gyfer yr amddiffyniad mwyaf effeithiol.
Apwyntiadau a gollwyd
Rydym yn parhau i weld nifer uchel o bobl yn methu apwyntiadau.
Os nad ydych yn gallu mynychu neu os nad ydych eisiau cael eich brechu, yna gadewch i’r GIG wybod.
Os bydd gennych unrhyw bryderon, daliwch i fynychu eich apwyntiad fel y gall staff iechyd eu trafod nhw gyda chi.
Mae brechu yn cynnig yr amddiffyniad gorau rhag bod yn ddifrifol wael gyda Covid-19, a dyna ein ffordd orau allan o’r pandemig.
Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan y bwrdd iechyd lleol.
Symptomau? Trefnwch brawf
Os oes gennych chi symptomau o’r coronafeirws – neu os ydych wedi eich nodi fel ‘cyswllt’ gan y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu – sicrhewch eich bod yn hunan ynysu ac yn cael prawf.
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.
Symptomau ehangach
Gallwch nawr gael prawf am ddim os oes gennych ystod ehangach o symptomau.
Yn ogystal â’r tri phrif arwydd – twymyn, tagiad newydd parhaus neu golli/newid blas ac arogl – gall bobl nawr gael prawf os oes ganddynt symptomau eraill hefyd.
Y rhain yw:
• Symptomau tebyg i ffliw na achosir gan gyflyrau hysbys (fel clwy’r gwair), gan gynnwys cyhyrau poenus, blinder llethol, cur pen parhaus, trwyn yn rhedeg neu’n llawn, tisian parhaus, dolur gwddf a/neu grygni, colli gwynt neu wichian.
• Teimlo’n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cysylltiad gydag achos Covid-19 hysbys.
• Unrhyw newid neu symptomau newydd yn dilyn prawf negyddol blaenorol.
Gallwch ddarllen mwy ar wefan y bwrdd iechyd lleol.
Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol
- Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru)
- Gwefan Llywodraeth Cymru – cwestiynau cyffredin ynglŷn â chyfyngiadau yng Nghymru ar hyn o bryd
- Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiadau rheolaidd
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF