Paratoi ar gyfer mynd yn ôl i’r ysgol!
Mae’r gwyliau hanner tymor bron â dod i ben, ac wrth i athrawon, rhieni a gofalwyr baratoi ar gyfer mynd yn ôl i’r ysgol, mae’n bwysig cofio am y profion llif unffordd.
Fe ddylai pawb sydd mewn ysgol uwchradd neu addysg bellach, p’un a ydynt yn gweithio neu’n astudio yno, fod yn cymryd profion llif unffordd.
Cofiwch gymryd y prawf ar ddydd Sul lle bo modd i helpu i gadw ein lleoliadau addysg mor ddiogel â phosibl.
Mae'n bwysicach nag erioed i gadw ein lleoliadau addysg yn ddiogel.
Staff addysg a dysgwyr ysgolion uwchradd a cholegau – daliwch ati i ddilyn y camau hyn.#DaliDdysgu pic.twitter.com/8nWzRBKnI5
— Llywodraeth Cymru Addysg (@LlC_Addysg) October 27, 2021
Helpwch i gadw Covid draw o’r ysgolion
- Os oes gan eich plentyn unrhyw symptom, dim ots pa mor ysgafn, cadwch nhw gartref ac archebwch brawf.
- Dim symptomau? Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwneud prawf llif unffordd ddwywaith yr wythnos ac adrodd am y canlyniadau.
- Dilynwch reolau’r ysgol o ran gorchuddion wyneb. Bydd yn rhaid i ddisgyblion uwchradd (blwyddyn 7 a hŷn) eu gwisgo ar gludiant ysgol.
- Cymerwch y brechlyn os caiff ei gynnig i chi neu’ch plentyn.
- Golchwch eich dwylo yn rheolaidd.
Mesurau cryfach i ostwng cyfraddau uchel o’r coronafeirws yng Nghymru
Heddiw mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi bod lefel 0 (gweithio o gartref lle’n bosib, gwisgo masg, ayyb.) yn aros mewn grym am dair wythnos arall, ond gyda:
- Ehangiad o’r defnydd o Bàs COVID-19, o 15fed o Dachwedd, I gynnwys theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd.
- Mae’r canllawiau ynghylch hunan-ynysu yn newid. Bydd rhaid i bobl sydd heb gael eu dau frechiad barhau i hunan-ynysu am 10 diwrnod; bydd gofyn i oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn ynysu nes eu bod wedi cael prawf PCR negatif.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi pecyn cymorth addysg i ysgolion.
- Os fydd niferoedd yn gwaethygu, mi fydd mwy o gyfyngiadau yn dod i rym gyda’r adolygiad nesa mewn tair wythnos, yn cynnwys y posibilrwydd o symud yn ôl at lefel 1
Cyfraddau coronafeirws Cymru yw’r uchaf yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.
Cofiwch eich Pàs Covid os ydych yn mynd am noson allan
I fynd i glwb nos neu ddigwyddiad mawr yn Wrecsam a phob cwr o Gymru, mae’n rhaid i chi bellach fedru dangos eich statws brechu neu ganlyniad negyddol diweddar wedi prawf llif unffordd.
Gallwch brofi hynny ar unwaith os oes genych Bas Covid y GIG, a gallwch lawrlwytho un ar wefan y GIG.
Gallwch ddarllen mwy am hyn yma
TREFNWCH EICH PÀS COVID
Canolfan Brofion PCR
O 8 Tachwedd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dod i gytundeb gydag Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU i sefydlu uned brofi symudol ym maes parcio Tesco, Cefn Mawr, bydd rhagor o fanylion ar gael am hyn yn fuan.
Brechlynnau
Mae ymgyrch frechu’r gaeaf bellach ar waith ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwneud cynnydd da gyda’r brechlynnau atgyfnerthu Covid-19, brechlynnau ar gyfer plant rhwng 12 a 15 oed a brechlynnau’r ffliw.
Os cysylltir â chi ynghylch eich brechlyn atgyfnerthu, gwnewch bob ymdrech i fynychu os gwelwch yn dda. Mae’n amddiffyniad pwysig yn erbyn Covid-19 wrth i fisoedd y gaeaf nesáu.
Os nad ydych wedi cael eich dos cyntaf neu’ch ail ddos eto, nid yw’n rhy hwyr. Gallwch drefnu hyn drwy ffonio’r Ganolfan Gyswllt Frechu COVID-19 ar 03000 840004. Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 7pm a dydd Sadwrn a dydd Sul, 9am tan 2pm.
Nid oes rhaid i chi gysylltu i drefnu apwyntiad ar gyfer eich brechlyn atgyfnerthu. Byddwn yn cysylltu â chi yn uniongyrchol pan ddaw eich tro chi.
Ddydd Sul, 31 Hydref, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnal clinig galw heibio ar gyfer unrhyw un rhwng 12 ac 17 a naw mis oed i dderbyn eu dos cyntaf, os nad ydynt eisoes wedi trefnu apwyntiad yn yr wythnosau nesaf.
Bydd y clinig yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Catrin Finch rhwng 09.00 a 17.00.
Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt
Yn yr un modd ag arfer, gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn ddiogel.
Os ydych yn gwneud llusernau neu’n ymweld â rhywle sydd â llusernau, byddwch yn ofalus, sicrhewch eich bod yn cadw dillad draw oddi wrth unrhyw fflamau a llusernau batri hefyd lle bo modd.
Os ydych yn prynu tân gwyllt, sicrhewch eich bod yn eu prynu gan werthwr dibynadwy a’ch bod yn dilyn y cyfarwyddiadau diogelwch – mae tân gwyllt yn beryglus ac yn gallu achosi niwed difrifol.
Dydd y Cadoediad a Sul y Cofio
Rydym yn gwneud trefniadau ar gyfer digwyddiadau Dydd y Cadoediad a Sul y Cofio a fydd yn cael eu cynnal yn ôl yr arfer eleni, yn wahanol i’r llynedd pan fu’n rhaid i ni eu cynnal ar-lein.
Os byddwch yn mynychu unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, cofiwch gadw pellter cymdeithasol a gwisgo masg lle bo modd os gwelwch yn dda.