???? Cymru yn cwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero ????
Pigiadau atgyfnerthu i bobl ifanc rhwng 16 a 17 oed
Mae’r holl blant rhwng 16 a 17 oed bellach yn derbyn dosiau atgyfnerthu o’r brechlyn yn dilyn argymhelliad a wnaed gan JCVI.
Dylid cynnig y dos atgyfnerthu heb fod yn gynt na thri mis ar ôl cwblhau’r cwrs cychwynnol.
Gall dosiau atgyfnerthu gael eu cynnig yn un o’n clinigau galw heibio ar draws Gogledd Cymru neu gallwch hefyd drefnu apwyntiad ar-lein ar gyfer rhai clinigau neu ffonio 03000 840004.
Ail ddosiau i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed
Mae’r bwrdd iechyd GIG lleol bellach yn cynnig ail ddognau i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed.
Gall dognau atgyfnerthu gael eu cynnig yn un o’n clinigau galw heibioar draws Gogledd Cymru neu gallwch hefyd drefnu apwyntiad ar-leinar gyfer rhai clinigau neu ffonio 03000 840004.
Lleihau’r cyfnod hunanynysu
Bydd pobl sydd wedi cael prawf COVID-19 positif yn cael rhoi’r gorau i hunanynysu ar ôl pum diwrnod llawn os ydynt wedi cael dau brawf llif unffordd negatif.
Rhaid i’r ddau brawf llif unffordd negatif gael eu cymryd ar ddau ddiwrnod yn olynol, ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech o’r cyfnod hunanynysu.
Daw’r newid hwn i rym o 28 Ionawr, pan ddisgwylir i Gymru gwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero.
Sut i gael citiau prawf ychwanegol
Os ydych angen mwy o gitiau prawf llif unffordd, gallwch eu harchebu ar-lein, neu eu casglu o’r pwyntiau casglu lleol.
Cyfyngiad ar niferoedd wedi’i godi ym Mhentrebychan
Yn ôl ym mis Rhagfyr, cyflwynwyd rheol Cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr ar gyfer angladdau yn amlosgfa Pentrebychan, gydag uchafswm o 45 o fynychwyr.
Fodd bynnag, wrth i Gymru symud yn ôl i lefel rhybudd sero, gallwn ddychwelyd unwaith eto at ganiatáu hyd at 100 o fynychwyr yng nghapel yr amlosgfa. Gobeithio y bydd hyn yn gwneud pethau rhywfaint yn haws i deulu a ffrindiau sy’n ffarwelio ag anwyliaid yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae ymgymerwyr lleol wedi cael gwybod.