Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn briffio Covid-19 – pigiadau atgyfnerthu ac ail ddognau i bobl ifanc yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Nodyn briffio Covid-19 – pigiadau atgyfnerthu ac ail ddognau i bobl ifanc yn Wrecsam
ArallY cyngor

Nodyn briffio Covid-19 – pigiadau atgyfnerthu ac ail ddognau i bobl ifanc yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 31, 2022 1:06 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Vaccination
RHANNU

???? Cymru yn cwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero ????

Cynnwys
  • Pigiadau atgyfnerthu i bobl ifanc rhwng 16 a 17 oed
    • Ail ddosiau i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed
  • Lleihau’r cyfnod hunanynysu
  • Sut i gael citiau prawf ychwanegol
  • Cyfyngiad ar niferoedd wedi’i godi ym Mhentrebychan

Pigiadau atgyfnerthu i bobl ifanc rhwng 16 a 17 oed

Mae’r holl blant rhwng 16 a 17 oed bellach yn derbyn dosiau atgyfnerthu o’r brechlyn yn dilyn argymhelliad a wnaed gan JCVI.

Dylid cynnig y dos atgyfnerthu heb fod yn gynt na thri mis ar ôl cwblhau’r cwrs cychwynnol.

Gall dosiau atgyfnerthu gael eu cynnig yn un o’n clinigau galw heibio ar draws Gogledd Cymru neu gallwch hefyd drefnu apwyntiad ar-lein ar gyfer rhai clinigau neu ffonio 03000 840004.

Ail ddosiau i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed

Mae’r bwrdd iechyd GIG lleol bellach yn cynnig ail ddognau i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed.

Gall dognau atgyfnerthu gael eu cynnig yn un o’n clinigau galw heibioar draws Gogledd Cymru neu gallwch hefyd drefnu apwyntiad ar-leinar gyfer rhai clinigau neu ffonio 03000 840004.

Darllenwch fwy…

Lleihau’r cyfnod hunanynysu

Bydd pobl sydd wedi cael prawf COVID-19 positif yn cael rhoi’r gorau i hunanynysu ar ôl pum diwrnod llawn os ydynt wedi cael dau brawf llif unffordd negatif.

Rhaid i’r ddau brawf llif unffordd negatif gael eu cymryd ar ddau ddiwrnod yn olynol, ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech o’r cyfnod hunanynysu.

Daw’r newid hwn i rym o 28 Ionawr, pan ddisgwylir i Gymru gwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero.

Darllenwch fwy…

Sut i gael citiau prawf ychwanegol

Os ydych angen mwy o gitiau prawf llif unffordd, gallwch eu harchebu ar-lein, neu eu casglu o’r pwyntiau casglu lleol.

Cyfyngiad ar niferoedd wedi’i godi ym Mhentrebychan

Yn ôl ym mis Rhagfyr, cyflwynwyd rheol Cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr ar gyfer angladdau yn amlosgfa Pentrebychan, gydag uchafswm o 45 o fynychwyr.

Fodd bynnag, wrth i Gymru symud yn ôl i lefel rhybudd sero, gallwn ddychwelyd unwaith eto at ganiatáu hyd at 100 o fynychwyr yng nghapel yr amlosgfa. Gobeithio y bydd hyn yn gwneud pethau rhywfaint yn haws i deulu a ffrindiau sy’n ffarwelio ag anwyliaid yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae ymgymerwyr lleol wedi cael gwybod.

Rhannu
Erthygl flaenorol Cefn Mawr Ysgol Gynradd Cefn Mawr yn Greadigol
Erthygl nesaf Litter F Ardaloedd Di-sbwriel – neges bwysig i fusnesau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English