Mae perchnogion cŵn yn cael eu hatgoffa y dylid cadw eu cŵn ar dennyn bob amser tra bod y cyfyngiadau presennol yn eu lle.
Yn ddiweddar, ni ddilynodd un perchennog y cyngor hwn ac arweiniodd hyn at ddigwyddiad cas pan gafodd ci arall ei frathu a chael anafiadau drwg, gan arwain at ymweliad at y milfeddyg a llawdriniaeth. Roedd hyn hefyd yn brofiad hynod o annymunol ar gyfer y perchennog.
“Cŵn ar dennyn bob amser”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae mwyafrif o berchnogion cŵn bob amser yn gyfrifol, ond tynnwyd fy sylw at y digwyddiad hwn yn ddiweddar, ac rwyf wedi cynnig cyngor i’r rhai oedd ynghlwm.
“Atgoffir holl berchnogion i gadw eu cŵn ar dennyn bob amser a dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol wrth fynd am dro. Byddwch yn gyfrifol am eich ci er mwyn atal unrhyw ddigwyddiadau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.”
Mae gan Heddlu Gogledd Cymru gyngor defnyddiol iawn am berchnogaeth cŵn cyfrifol ar eu gwefan. Cymrwch amser i’w ddarllen, yn arbennig os ydych yn ystyried prynu ci.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN