Oeddech chi’n gwybod mai Llyfrgell Wrecsam yw’r Llyfrgell fwyaf poblogaidd yng Ngogledd Cymru, gyda dros 100,000 o ymwelwyr ac ymwelwyr dros y we bob blwyddyn!
Y llynedd, fe gynhaliodd 479 o ddigwyddiadau lle bu dros 8,000 o bobl yn bresennol.
Yn anffodus, mae’r cyfleuster poblogaidd yma angen to newydd a bydd gwaith yn dechrau ym mis Medi er mwyn sicrhau y bydd ganddo do a fydd yn para at y dyfodol er mwyn sicrhau bod yr holl ymwelwyr hynny a staff yn aros yn gynnes ac yn sych.
Dyma’r amserlen ar gyfer y gwaith ar y to yn Llyfrgell Wrecsam:
- Dydd Sadwrn 9 Medi – contractwyr yn symud i mewn ac yn gosod eu compownd ac yn adeiladu’r ddau blatfform disgyn (crash deck) o dan y ddwy ffenestr to.
- Dydd Sadwrn 9 Medi – Agor Cyntedd Llyfrgell Wrecsam, bydd gweddill yr adeilad ar gau gan y bydd sgaffaldiau yn cael eu gosod ac fe fydd yna fynediad i’r brif lyfrgell ond gall cwsmeriaid ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain yn y cyntedd a defnyddio’r Wi-Fi am ddim.
- 18 Medi – gwaith yn dechrau ar y to
- Dyddiad gorffen disgwyliedig rhwng canol a diwedd mis Rhagfyr 2023.
Mae’r gwaith wedi cael ei ariannu o Gyllideb Cyfalaf wedi’i gynllunio y Cyngor a bydd yn sicrhau dyfodol hirdymor y cyfleuster hwn yng nghanol Wrecsam.
Yn ystod y gwaith, bydd yr holl stoc ar gael i’r cyhoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Corfforaethol, “Rydym ni’n gofyn i bob defnyddiwr fod yn amyneddgar gyda ni gan y bydd yna rywfaint o amhariad a sŵn yn gysylltiedig â’r gwaith adeiladu hir-ddisgwyliedig.
“Bydd staff wrth law os byddwch chi angen cymorth ac rwy’n diolch iddynt a’r holl ymwelwyr am eu hamynedd yn ystod y cyfnod yma.
“Byddwn yn gwneud popeth allwn ni i leihau amhariad.” Cofiwch, os na allwch chi ddod i’r llyfrgell yn bersonol, gallwch archebu hyd at 10 llyfr o’r Blwch Benthyg a gallwch ddarllen mwy am hynny yma.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch