Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wythnos ar ôl i ymestyn hawliad Budd-dal Plant i bobl ifanc yn eu harddegau 
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Wythnos ar ôl i ymestyn hawliad Budd-dal Plant i bobl ifanc yn eu harddegau 
Pobl a lleArall

Wythnos ar ôl i ymestyn hawliad Budd-dal Plant i bobl ifanc yn eu harddegau 

Diweddarwyd diwethaf: Awst 23, 2023 3:50 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Child Benefit
RHANNU

Dim ond wythnos ar ôl diwrnod canlyniadau TGAU sydd gan rieni i roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) fod eu plentyn 16 oed yn parhau â’u haddysg neu hyfforddiant, er mwyn parhau i gael Budd-dal Plant.

Bydd pobl ifanc yn eu harddegau yn darganfod eu canlyniadau TGAU yr wythnos hon a bydd llawer yn ystyried eu dyfodol ac a ddylid aros ymlaen mewn addysg. Mae taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben ar 31 Awst ar ôl i blentyn droi’n 16 oed, ond gall rhieni ymestyn eu hawliad os yw eu plentyn yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy.

Mae’n hawdd i rieni ddiweddaru eu cofnod Budd-dal Plant. Gallant ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein ar GOV.UK neu ap CThEF i roi gwybod i CThEF am gynlluniau eu plentyn.

Yn ddiweddar, ysgrifennodd CThEF at rieni am ymestyn eu hawliad Budd-dal Plant. Roedd y llythyr yn cynnwys cod QR sydd, o’i sganio, yn eu cyfarwyddo i GOV.UK i ddiweddaru eu hawliad ar-lein. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cymhwyso i’w hawliad Budd-dal Plant ar unwaith.

Bydd Budd-dal Plant yn parhau i gael ei dalu ar gyfer plant sy’n astudio’n llawn amser a all gynnwys:

  • Lefelau A neu debyg
  • Y Fagloriaeth Ryngwladol
  • addysg yn y cartref – os y’i dechreuwyd cyn i’w plentyn droi’n 16 oed, neu ar ôl iddo droi’n 16 oed os oes ganddo anghenion arbennig
  • Lefelau T
  • NVQs, hyd at lefel 3
  • hyfforddeiaethau yn Lloegr

Bydd Budd-dal Plant hefyd yn parhau i blant sy’n astudio ar un o’r cyrsiau hyfforddi cymeradwy hyn:

  • yng Nghymru: Prentisiaethau Sylfaenol, Hyfforddeiaethau neu gynllun Jobs Growth Wales+
  • yng Ngogledd Iwerddon: PEACE IV Children and Young People 2.1, Training for Success neu Skills for Life and Work

Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

“Gall Budd-dal Plant roi cymorth ariannol i deuluoedd, felly gwnewch yn siŵr nad ydych yn colli allan os yw’ch plentyn yn ei arddegau yn dal yn gymwys. Gallwch ymestyn eich hawliad yn gyflym ac yn hawdd ar-lein neu drwy ap CThEF, chwiliwch am ‘Child Benefit when your child turns 16’ ar GOV.UK.”

Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth ar rieni i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF. Bydd angen eu rhif Yswiriant Gwladol neu god post arnynt a 2 fath o Ddynodydd Defnyddiwr i gofrestru ar GOV.UK.

Mae’r llywodraeth yn cynnig help i gartrefi. Trowch at GOV.UK i gael cymorth gyda chostau byw, gan gynnwys help gyda chostau gofal plant. 

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Mae ap CThEF ar gael yn Gymraeg

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Library Llyfrgell fwyaf poblogaidd Gogledd Cymru yn cael to newydd
Erthygl nesaf Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English