Ym mis Chwefror 2019, bydd Tŷ Pawb yn cynnal arddangosfa sy’n edrych ar hanes beth oedd ar un adeg un o’r ffatrïoedd tecstiliau mwyaf yn y Deyrnas Unedig, os nad Ewrop.
Bydd yr arddangosfa yn agor ochr yn ochr ag arddangosfa hirddisgwyliedig Grayson Perry, ‘Julie Cope’s Grand Tour’ ar 22 Chwefror 2019.
Croeso i bob cyfraniad
Os oeddech chi’n gweithio yn ffatri Celanese a hoffech rannu eich atgofion gyda ni, cysylltwch â ni. Mae croeso i bob cyfraniad, gan gynnwys ffotograffau a deunydd arall wedi’i argraffu, a byddwn yn ceisio cynnwys cymaint ag sy’n bosibl yn yr arddangosfa ddilynol.
Bydd yr arddangosfa’n cynnwys gwaith tecstiliau gan yr artist cyfoes Will Cruickshank. Bydd dawns wedi’i ffilmio a gwaith drama gan fyfyrwyr Coleg Cambria hefyd, wedi’u hysbrydoli gan y ffatri.
Hoffai’r myfyrwyr gynnwys eich atgofion yn eu gwaith; rhowch wybod os fyddai gennych ddiddordeb mewn cael eich cyfweld gan y myfyrwyr i gyfrannu at eu perfformiad.
Dychwelyd i Tŵr Rhydfudr
Rydym hefyd yn cynllunio digwyddiad aduniad yn Nhŵr Rhydfudr, a oedd yn ffurfio rhan o’r ffatri, a fydd yn cynnwys perfformiadau gan y myfyrwyr. Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn ar gael yn yr wythnosau sydd i ddod. Caiff pob cyfrannwr eu gwahodd i lansiad yr arddangosfa yn Nhŷ Pawb ym mis Chwefror hefyd.
Os hoffech gyfrannu at y prosiect a’r arddangosfa, cysylltwch â Tŷ Pawb erbyn 3 Rhagfyr: typawb@wrexham.gov.uk – 01978 292093.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION