‘Da chi’n rhentu eich cartref gan landlord preifat neu asiant gosod?
Oeddech chi’n gwybod bod Llywodraeth Cymru, ar 1 Medi 2019, wedi gwahardd ffioedd rhentu preifat?
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Os yw eich cytundeb tenantiaeth yn dechrau ar ôl 1 Medi, 2019, yna mae ‘na ffioedd penodol na fydd yn rhaid i chi eu talu ac os yw eich landlord neu eich asiant gosod yn codi’r ffioedd hyn arnoch chi, mi fyddant yn torri’r gyfraith ac yn cael eu dirwyo.
Nid yw landlord neu asiant gosod tai’n cael codi tâl arnoch am:
- wirio geirdaon neu wirio credyd
- gweinyddu
- llunio telerau tenantiaeth
- adnewyddu tenantiaeth
- newid telerau tenantiaeth, er enghraifft drwy ychwanegu mwy o amodau
- cais i ddiwygio tenantiaeth os bydd un cyd-denant yn gadael ac un arall yn dod yn ei (l)le
- dod i weld tŷ neu fflat
- llunio rhestr eiddo
- trefnu gwarantwr
- archwilio tŷ neu fflat pan ddaw tenantiaeth i ben
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau canllaw ymarferol i helpu landlordiaid ac asiantau gosod i ddeall y gwaharddiad a’r hyn y mae’n ei olygu iddyn nhw. Lawrlwythwch y canllaw yma: https://llyw.cymru/ffioedd-gosod-eiddo-canllawiau-i-landlordiaid-ac-asiantiaid-gosod-eiddo?_ga=2.89008475.132087678.1568018482-1269735798.1568018482.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN