Cyfryngau Cymdeithasol – Peidiwch â cholli eich cyfle i gael prawf am Ganser y Coluddyn. Bydd citiau sgrinio sy’n hawdd eu defnyddio yn cael eu hanfon i 172,000 o bobl yn dilyn lleihau grŵp oedran sy’n gymwys.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach yn cynnig profion Sgrinio Canser y Coluddyn i bobl cymwys 55 – 57 oed ar draws Cymru.
Golyga hyn y bydd 172,000 yn fwy o bobl yng Nghymru yn derbyn y citiau sy’n hawdd eu defnyddio er mwyn profi am gamau cyntaf y clefyd.
Mae’r sgrinio yn rhan o becyn buddsoddiad £16 miliwn gan Lywodraeth Cymru ac mae’r cyllid wedi cefnogi cyflwyno citiau profi o gartref FIT newydd, sy’n haws i’w defnyddio. Mae’r citiau newydd wedi helpu i gynyddu nifer y rhai sy’n cyflawni’r profion sgrinio i 65% ac wedi gwella sensitifrwydd er mwyn canfod y rhai sydd mewn risg o ganser y coluddyn yn well.
Cafodd mwy na 2,500 o bobl ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2019. Mae sgrinio yn chwarae rôl bwysig i ganfod canser yn gynt ac yn helpu i wella canlyniadau canser yng Nghymru.
Mae lleihau oedran sgrinio wedi’i seilio ar argymhelliad gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU.
Dywedodd Dr Sharon Hillier, Cyfarwyddwyr Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Rwyf wrth fy modd ein bod yn ehangu rhaglen sgrinio canser y coluddyn i gynnwys y rhai sy’n 55, 56 a 57 oed yng Nghymru.
“Nod rhaglen sgrinio canser y coluddyn yw canfod canser yn gynnar, ar adeg pan fydd triniaeth yn fwy tebygol o fod yn effeithiol. Mae canfod canser yn gynnar yn arbennig o bwysig gan y bydd o leiaf 9 o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ddarganfod a’i drin yn gynnar. Mae rhaglen sgrinio canser y coluddyn hefyd yn canfod polypau cyn-ganseraidd sydd angen eu tynnu gan y gallant ddatblygu i fod yn ganser os cânt eu gadael yn y coluddyn.
“Bydd y gwahoddiad a’r pecyn profi yn cyrraedd yr unigolion cymwys drwy’r post yn ystod y 12 mis nesaf. Mae’r pecyn profi yn hawdd ei ddefnyddio a’i anfon i’n labordy i’w ddadansoddi.
“Rwy’n annog pawb sy’n cael gwahoddiad i fanteisio ar y cynnig hwn gan y gall achub eu bywyd.”
Cymrwch ran yn ein harolwg newid hinsawdd
Cymerwch ran yn ein harolwg