Oes gennych blant yn yr ysgol gynradd a hoffech chi gyfarfod rhieni eraill i siarad am eu chwarae?
Os felly, dewch am baned gyda’r gweithwyr chwarae yn y sesiwn galw heibio anffurfiol ddifyr newydd hon. Os oes gennych chi blant nad ydynt yn yr ysgol eto, mae croeso ichi ddod â nhw hefyd.
Dewch draw yn eich dillad chwarae, a byddwch yn barod at bob tywydd.
Cynhelir y sesiynau yn Nhŷ Pawb bob dydd Mawrth tan 9 Gorffennaf, rhwng 1:00pm a 2:30pm.
Bydd y sesiynau’n ymchwilio i werth chwarae drwy ystyried ein profiadau ein hunain a’n plant.
Bydd gweithwyr chwarae wrth law i osod y cyfleoedd chwarae i rieni a phlant gymryd rhan ynddynt.
Mae croeso i rieni sydd â phlant yn yr ysgol alw draw i gael syniadau ac i ddysgu mwy am y prosiectau chwarae sy’n cael eu cynnal ar draws Wrecsam.
I gael rhagor o fanylion, ffoniwch 01978 292000
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN