Oes gennych chi fotel nwy yr ydych yn ei ail-lenwi i’w ddefnyddio ar gyfer barbeciw, stôf wersylla neu rywbeth tebyg?
Mae gan nifer o bobl y rhain gartref ar gyfer gwahanol bethau, ond mae’n rhaid cymryd gofal wrth storio, ymdrin neu wrth ddefnyddio poteli nwy.
Mae Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Wrecsam yn archwilio digwyddiad diweddar yn cynnwys potel nwy yng ngardd gefn tŷ yn Wrecsam.
Bu i botel 10kg o nwy a oedd wedi’i gysylltu â’r barbeciw dorri ac achosi i nwy ddianc o’r botel.
Er nid oedd y nwy wedi cynnau (nid oedd y barbeciw yn cael ei ddefnyddio ar y pryd), ond roedd y grym o’r nwy oedd yn dianc yn ddigon i achosi’r botel a’r barbeciw oedd ynghlwm gael ei chwythu ar draws yr ardd a drwy ffens. Nid oedd neb yn bresennol ar y pryd a ni achoswyd unrhyw anaf i neb.
Mae archwiliadau brys yn parhau i edrych ar achos hyn ac i adnabod os oes unrhyw achos o bryder bod poteli eraill fel hyn o gwmpas.
Yn y cyfamser mae Safonau Masnach yn rhybuddio preswylwyr i sicrhau eu bod yn storio a defnyddio poteli nwy yn ddiogel.
- Cadwch boteli nwy y tu allan (ddim yn y garej) Os nad yw’n bosibl, yna cadwch hwy mewn man sydd wedi’i awyru’n dda.
- Cadwch nhw draw o fynediad/ man gadael adeilad.
- Cadwch boteli ddigon pell o wres neu rywbeth all ei danio.
- Cadwch hwy yn sefyll ac yn ddiogel rhag iddynt ddisgyn.
- Peidiwch â’u storio mewn islawr neu seler.
- Mewn tywydd poeth, cadwch hwy mewn cysgod i ffwrdd o oleuni haul uniongyrchol.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws.
YMGEISIWCH RŴAN