Oes gennych chi ddiddordeb mewn rhedeg caffi a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r gymuned leol?
Yna efallai mai dyma’r cyfle i chi!
Mae Caffi Dyfroedd Alun ar ochr Gwersyllt o Barc Gwledig Dyfroedd Alun. Mae’r caffi yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Dyfroedd Alun. Mae’r caffi ar agor 7 diwrnod yr wythnos ac yn darparu byrbrydau a chinio i ymwelwyr â Pharc Gwledig Dyfroedd Alun. Rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018, denodd y ganolfan ymwelwyr 109,381 o ymwelwyr.
Am flynyddoedd lawer, yr adain cyfleoedd gwaith yn Adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam oedd yn rhedeg y caffi, gan ddarparu gwasanaeth i ymwelwyr a chefnogi eu cleientiaid. Bellach, mae cyfle i ddarparwr newydd barhau i ddatblygu a gwella’r caffi, ehangu’r cyrsiau hyfforddi, y cyfarfodydd a’r cynadleddau busnes a datblygu agweddau lles a chyfranogiad cymunedol y parc.
Mae’r caffi yn cael ei werthfawrogi gan y gymuned leol a dinasyddion ledled Wrecsam. Mae’n adnabyddus am ei amgylchedd cynhwysol ac mae’n darparu gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl ag anableddau. Mae ganddo lu o gwsmeriaid ffyddlon, ffrindiau Dyfroedd Alun, ac mae’n denu grwpiau o’r ardal leol a thu hwnt gan gynnwys cerddwyr, beicwyr a phêl-droedwyr.
Mae caffi Dyfroedd Alun yn enghraifft wych o amgylchedd croesawgar ar gyfer pobl anabl, gofalwyr, pobl hŷn, teuluoedd a phlant ac mae’n dod â phob rhan o’r gymuned ynghyd. Mae’r Cyngor yn chwilio am ddarparwr a fydd yn gweithio gyda thîm y parc a phartneriaid eraill i ddatblygu’r ddarpariaeth wych yma a’i wneud yn gaffi blaenllaw ar gyfer lles y gymuned.
Am ragor o wybodaeth am sut i dendro ar gyfer y cyfle hwn, ewch i wefan GwerthwchiGymru.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I