Mae GOGDdC, sy’n darparu’r holl wasanaethau gofalwyr oedolyn di-dâl ar ran Cyngor Wrecsam, yn agor canolfan newydd i ofalwyr yn Wrecsam a byddant yn cynnal diwrnod agored ddydd Llun, 6 Mawrth rhwng 11am-2pm.
Gwahoddir gofalwyr di-dâl sy’n byw yn Wrecsam i gael golwg o amgylch y ganolfan newydd, cwrdd â’r tîm a dysgu mwy am y gwasanaethau sydd ar gael.
Dyma gyfeiriad y ganolfan newydd: 3A Edison Court, Parc Technoleg Wrecsam, LL13 7YT (y tu ôl i Westy’r Ramada).
Nid oes rhaid archebu o flaen llaw. Mae lle parcio y tu ôl i’r adeilad neu os ydych chi’n teithio ar fws, rydym ar lwybr bws uniongyrchol.
Ydych chi’n ofalwr di-dâl?
Ydych chi’n darparu gofal di-dâl i oedolyn neu blentyn anabl? Os mai ‘ydw’ yw eich ateb, yna gall y gwasanaeth gofalwyr eich helpu chi.
Gofalwr di-dâl yw unrhyw un sy’n gofalu, yn ddi-dâl (heb gynnwys budd-daliadau) am berthynas, partner neu ffrind sy’n wael, yn fregus, yn anabl neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau.
“Dewch draw i gwrdd â ni”
Dywedodd Claire Sullivan, Prif Weithredwr GOGDdC: “Mae GOGDdC yn falch o agor canolfan newydd i ofalwyr, sydd wedi’i lleoli yng nghanol Wrecsam, ac yn agos at ysbyty Maelor. Rydym yn gobeithio y bydd gofalwyr yn ei defnyddio fel man lle gallant alw heibio am gefnogaeth, mynychu cyrsiau hyfforddi a digwyddiadau cymdeithasol.
“Mae’r tîm yn Wrecsam yn brofiadol iawn wrth gefnogi gofalwyr ar draws Wrecsam, ac o bosib y gallant gynnig rhywfaint o gyngor a chefnogaeth i chi. Mae GOGDdC yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i sicrhau bod gofalwyr yn derbyn y wybodaeth gywir ar yr amser cywir, bod gennych lais a’ch bod yn cael eich cefnogi.
“Dewch draw i gwrdd â ni, edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd.”
“Cael syniad o’r mathau gwahanol o gymorth”
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’n wych ein bod yn cael canolfan newydd i ofalwyr a fydd yn cynnig arweiniad a chefnogaeth i’r holl ofalwyr di-dâl ardderchog ar draws Wrecsam.
“Gall bod yn ofalwr brofi’n anodd iawn a gellir teimlo’n hynod ynysig ac unig ar brydiau, felly mae cael rhywle lle gallwch alw heibio am y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, yn ogystal â mynediad hawdd at wybodaeth werthfawr, yn hynod bwysig. Rydym yn annog ein gofalwyr di-dâl i ddod draw i’r diwrnod agored ddydd Llun, 6 Mawrth i gael syniad o’r mathau o gymorth sydd ar gael iddynt.”
Ynglŷn â GOGDdC
Mae GOGDdC yn ddarparwr gwasanaethau gofalwyr i ofalwyr di-dâl yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Maent yn darparu rhaff achub i ofalwyr o bob oed a chefndir ac yn cynnig ystod o wasanaethau sydd wedi’u teilwra i fodloni anghenion unigol.
Mae gwasanaethau yn cynnwys gwybodaeth am gymorth ariannol, cynllun seibiant arobryn, asesiadau o anghenion gofalwyr, cwnsela, hyfforddiant, grwpiau cefnogi cyfoedion, Meddyg Teulu, cymorth ysbyty a llawer mwy.
Gallant eich helpu i gael mynediad at y wybodaeth, yr arweiniad a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu yn eich rôl fel gofalwr. Gallant hefyd eich hysbysu o’ch hawliau fel gofalwr di-dâl.
Cysylltwch â GOGDdC – am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.newcis.org.uk/contact/
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD